British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Iau, 16 Mehefin 2011, 09:28 GMT 10:28 UK
Antigua: 'Cerdyn ffn wedi ei ddwyn'

Catherine a Ben Mullany
Kafodd Catherine a Ben Mullany eu ladd tra ar eu mis mel.

Clywodd llys yn Antigua fod tad dyn sy'n cael ei gyhuddo o ladd cwpl priod o Gymru wedi bod yn defnyddio cerdyn ffôn oedd wedi ei ddwyn.

Cafodd Ben a Catherine Mullany o Gwm Tawe eu llofruddio ar ddiwrnod olaf eu mis mêl ar Orffennaf 27, 2008.

Mae Kaniel Martin 23 oed ac Avie Howell, 20 oed, yn gwadu cyhuddiad o lofruddio Mr a Mrs Mullany a gweithiwr siop ar yr ynys, Weneta Anderson.

Dydd Mercher clywodd llys fod, Attlee Howell, tad Avie Howell wedi bod yn defnyddio cerdyn ffôn oedd wedi ei ddwyn o'r siop lle'r oedd Ms Anderson yn gweithio.

Roedd y cerdyn wedi ei ddefnyddio dau ddiwrnod ar ôl i Ms Anderson gael ei lladd.

'Cwrtais a charedig'

Clywodd y llys fod yr heddlu wedi archwilio tŷ Avie Howell lle cafwyd hyd i wain oedd yn cael ei ddefnyddio i gludo gwn.

Cafwyd hyd i'r wain mewn tyfiant yng ngardd cefn y tŷ.

Clywodd y llys fod un o'r diffynyddion Kaniel Martin wedi ei gyflogi fel garddwr mewn gwesty lleol bedwar diwrnod cyn y llofruddiaethau.

Dywedodd cyn-gyflogwr Mr Matin fod y dyn 23 oed yn "fachgen cwrtais a charedig".

Cafodd Mr a Mrs Mullany eu llofruddio ar Orffennaf 27.

Cafodd Ms Anderson ei llofruddio ar Awst 9.

Mae'r achos yn parhau.



HEFYD
Antigua: Dau wedi eu saethu
14 Meh 11 |  Newyddion
Antigua: Holi swyddog diogelwch
08 Meh 11 |  Newyddion
Antigua: Disgrifiadau manwl
06 Meh 11 |  Newyddion
Priodferch: 'Ymladd am ei bywyd'
03 Meh 11 |  Newyddion
Llys: Cwpl yn "ffrindiau mynwesol"
03 Meh 11 |  Newyddion
Antigua: 'Dim clo ar y glwyd'
02 Meh 11 |  Newyddion
Mis ml: Tystiolaeth parafeddyg
02 Meh 11 |  Newyddion
Mis ml: Achos llys yn dechrau
01 Meh 11 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific