British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mercher, 15 Mehefin 2011, 19:03 GMT 20:03 UK
Swyddfeydd heddlu i gau

Arwydd ar orsaf heddlu canol Abertawe
Dywed Heddlu'r De y bydd y gorsafoedd prysuraf yn aros ar agor

Mae Heddlu'r De wedi dweud y bydd llawer o'u swyddfeydd ymholiadau yn cau i'r cyhoedd wrth iddyn nhw geisio ymdopi a diffyg ariannol o £47miliwn dros y pedair blynedd nesaf.

Ni fydd pobl yn cael eu penodi yn staff ar y ddesg flaen pan fyddan nhw'n gadael eu swyddi.

Deellir mai dim ond swyddfeydd ymholiadau Canol Abertawe a Chastell-nedd fydd yn dal ar agor yn rhanbarth gorllewinol y llu.

Mynnodd Heddlu'r De y byddai'r gorsafoedd prysuraf yn aros ar agor, a bod y cyhoedd fwy o ffyrdd nag erioed i gysylltu gyda nhw.

Dywed cynghorwyr yng Nghastell-nedd Port Talbot y byddan nhw'n gwrthwynebu unrhyw symudiad i gael gwared â gwasanaethau desg flaen yno.

'Heb staff'

Mewn datganiad i BBC Cymru, dywedodd Prif Gwnstabl Cynorthwyol Julian Kirby:

"Mae dyfodol rhai o'r desgiau blaen ar draws y rhanbarth yn un o'r dewisiadau sy'n cael eu hystyried fel modd o fynd i'r afael a'r diffyg ariannol.

"Er mwyn ateb gofynion cyllidol, ni fydd Heddlu'r De yn penodi pobl i gymryd lle staff ymholiadau mewn gorsafoedd wrth iddyn nhw adael.

"Mae hynny'n golygu y bydd llawer o'r gorsafoedd llai - sy'n cael un neu lai o bobl yn galw i mewn bob dydd ar gyfartaledd - heb staff ynddyn nhw.

"Fe fydd plismyn yn parhau ar batrôl yn eich ardal chi yn atal a chanfod troseddau, ac fe fyddan nhw'n ymateb pan fydd y cyhoedd yn galw."

Ychwanegodd Mr Kirby ei bod hi'n bwysig gwahaniaethu rhwng gorsafoedd heddlu a swyddfeydd ymholiadau.

Dywedodd fod ymchwil yn dangos fod y rhan fwyaf o bobl yn cysylltu gyda'r heddlu dros y ffon, a bod mwy o ffyrdd nag erioed i gysylltu gyda nhw.



HEFYD
Arbedion: Heddluoedd i gydweithio
31 Ion 11 |  Newyddion
'Colli 1,600 o swyddi yng Nghymru'
19 Ion 11 |  Newyddion
Toriadau: 'Yn diogelu'r llinell flaen'
13 Rhag 10 |  Newyddion


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific