Mae arweinydd Plaid Cymru, Ieuan Wyn Jones, wedi rhybuddio na all y Blaid encilio ar ôl canlyniad etholiad y Cynulliad.
Wrth siarad ar raglen CF99 BBC Cymru, dywedodd Mr Jones y bydd rhaid i'w olynydd barhau i ehangu apel y blaid er mwyn symud ymlaen.
"Os fydd y Blaid ond yn edrych arni hi ei hun, ond yn siarad gyda ni'n hunain, mi fyddai hynny'n gamgymeriad mawr," meddai.
"Rhaid i ni fod yn siarad gyda phobl o'r tu allan er mwyn ehangu ein hapêl."
'Yfflon o dwll'
Os ydych chi eisiau symud ymlaen o ddifri, fedrwch chi ddim treulio dwy flynedd yn ffraeo
Ieuan Wyn Jones AC
Pwysleisiodd ei fod yn aros fel arweinydd am y tro ar gais rhai o'i gyd aelodau o fewn y Blaid, a hynny er mwyn osgoi'r hyn alwodd yn "yfflon o dwll" a ddigwyddodd yn 2003.
Ychwanegodd: "Yn naturiol ma' rywun yn trafod penderfyniad gydag eraill ac un o'r pethau a ddywedwyd wrthyf oedd na ddylwn i drosglwyddo'r awenau yn syth.
"Dyna wnaethon ni yn 2003 a landio mewn yfflon o dwll - dwi ddim eisiau mynd yn ôl i'r fan yna.
"Mae angen i'r Blaid ystyried o ddifri rŵan. Rhaid i arweinydd gael plaid i'w harwain - mae angen peirianwaith, polisïau, sustem gyfathrebu dda - rhaid cael y 'basics' yma yn eu lle i unrhyw arweinydd newydd.
"Os ydych chi eisiau symud ymlaen o ddifri, fedrwch chi ddim treulio dwy flynedd yn ffraeo (fel yn 2003)."
80 mlynedd
Fe holwyd Mr Jones os oedd yn credu y byddai ei yrfa yn y pen draw yn cael ei farnu'n fethiant, ond gwrthododd hynny.
"Rwy'n falch iawn o'r hyn gyflawnwyd yn enwedig yn y pedair blynedd ddiwethaf.
"Dyna pryd y cafodd y Blaid - ar ôl 80 mlynedd o ffurfio polisïau - y cyfle cyntaf i'w gweithredu nhw mewn llywodraeth.
"Rydw i'n dal i gredu y daw cyfle i'r Blaid fod yn rym llawer mwy yng ngwleidyddiaeth Cymru nag y mae hi ar hyn o bryd."
Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.