British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mercher, 15 Mehefin 2011, 11:42 GMT 12:42 UK
Cynllun 1.5m i lanhau chwarel sydd wedi ei llygru

Dŵr brwnt yn chwarel Brofiscin yn 2007
Bydd y cynllun 1.5m yn cynnwys selio'r deunydd gwenwynig

Mae Asiantaeth yr Amgylchedd wedi taro cytundeb â chyngor sir ar gyfer cynllun gwerth £1.5m i lanhau chwarel sydd wedi ei llygru.

Yn y chwedegau a'r saithdegau cafodd cemegau gwenwynig, gan gynnwys PCBau a deuocsidau, sy'n cael eu cysylltu â chanser, eu dadlwytho i chwarel Brofiscin, ger y Groes-faen tuag wyth milltir o Gaerdydd.

Yn dilyn tirfesuriad yn 2007 dywedodd adroddiad fod y cemegau gwenwynig yn gollwng i'r dŵr dan y chwarel ac yn llifo i'r wyneb oherwydd glaw trwm.

Bydd y cynllun £1.5m yn cynnwys selio'r deunydd gwenwynig a chyflwyno system fonitro dŵr ac anwedd.

Bydd trigolion yr ardal yn cael eu hysbysu am y cynllun yn ystod cyfarfod cyhoeddus a gynhelir yng Nghapel Babel rhwng 2pm a 7pm Ddydd Mercher.

Cynlluniwyd y prosiect gan Gyngor Rhondda Cynon Taf ac Asiantaeth yr Amgylchedd.

Dywedodd y cyngor y byddai selio'r safle yn sicrhau na fyddai anifeiliaid na'r cyhoedd yn dod mewn cysylltiad â'r gwastraff.

Ychwanegodd y cyngor nad oedd perygl uniongyrchol i iechyd pobl.

Er hynny, yn ôl y cyngor, canfu cysylltiadau dichonadwy rhwng anwedd yn dod o'r chwarel a chartrefi pobl a byddai'r broblem hon yn cael ei datrys fel rhan o'r cynllun.

Bydd y gwaith yn cael ei wneud gan arbenigwyr ymgynghorol a chontractwyr a disgwylir i'r gwaith cymryd 12 wythnos i'w gwblhau.



HEFYD
Cytundeb i lanhau hen chwarel
06 Meh 11 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific