British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mercher, 15 Mehefin 2011, 10:10 GMT 11:10 UK
Nofio: David Davies allan o bencampwriaeth y byd

David Davies
Cipiodd Davies fedal arian yng Ngemau Olympaidd Beijing yn 2008

Ni fydd David Davies yn cystadlu ym mhencampwriaeth nofio'r byd yn Shanghai ym mis Gorffennaf oherwydd diffyg ffitrwydd.

Cymhwysodd Davies, 26 oed, ar gyfer cystadleuaeth nofio 1500m dull rhydd ym mhencampwriaeth Prydain mis Mawrth eleni.

Llwyddodd y nofiwr o'r Barri i ennill y fedal arian yn y ras 10 cilometr agored yng Ngemau Olympaidd Beijing yn 2008.

Yn gynharach yn ystod y gemau methodd ag ennill medal yn y ras nofio 1500m dull rhydd.

'Cyfnod anodd'

Cipiodd fedal efydd yng Ngemau Olympaidd Athen yn 2004 yn y ras honno.

"Rwy'i wedi penderfynu cael hoe i sicrhau y byddaf ar fy ngorau erbyn y Gemau Olympaidd yn Llundain yn 2012," meddai Davies.

"Rwy'i wedi dioddef cyfnod anodd felly mae rhaid i mi dynnu allan o bencampwriaeth y byd."

Bydd Cymro arall, Tom Allen, yn cystadlu yn Shanghai wedi iddo orffen yn y 10fed safle yn y ras nofio 1500 dull rhydd ym mhencampwriaeth Ewrop ym mis Mai.

Pe bai Allen yn llwyddo i ennill ei le ymysg y 10 safle uchaf ym mhencampwriaeth y byd bydd e wedi cymhwyso i gystadlu yng Ngemau Olympaidd Llundain yn 2012.



HEFYD
Cychwyn gwaith ar bwll Harlech
06 Meh 11 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific