British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mercher, 15 Mehefin 2011, 10:26 GMT 11:26 UK
Cerddor yn Llywydd Prifwyl Wrecsam

Mair Carrington Roberts
Bu'n hyfforddi unigolion a chorau'r ardal am flynyddoedd

Mair Carrington Roberts yw Llywydd Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam a'r Fro 2011.

Bu'n beirniadu cerdd a cherdd dant am dros 40 mlynedd mewn eisteddfodau ar hyd a lled y wlad, gan gynnwys yr Eisteddfod Genedlaethol.

Bu'n aelod o sawl Pwyllgor Gwaith yn Wrecsam, Yr Wyddgrug a Rhosllannerchrugog, a hi oedd Cadeirydd Pwyllgor Gwaith Gŵyl Cerdd Dant Wrecsam 1986.

Mae Mrs Roberts yn wreiddiol o fro yr Eisteddfod er ei bod bellach wedi ymgartrefu ar Ynys Môn.

Fe fydd yn dilyn ôl troed rhai o Gymry enwog sydd wedi bod yn Lywydd yr Ŵyl.

Yn eu plith y mae cyn-Brif Weinidog Cymru, Rhodri Morgan, ei frawd Yr Athro Prys Morgan; Yr Arglwydd Gwilym Prys Davies; Guto Harri; Daniel Evans a Dafydd Wigley.

'Grwpiau ac unigolion lu'

Dywedodd Trefnydd yr Eisteddfod, Hywel Wyn Edwards, ei fod yn falch iawn o gael dweud mai Mrs Roberts fydd y Llywydd eleni.

"Mae'n adnabyddus i bobl Wrecsam ac wedi byw a gweithio yno am flynyddoedd lawer, gan hyfforddi grwpiau ac unigolion lu.

"Mae'n ddewis poblogaidd fel Llywydd, ac edrychwn ymlaen at glywed ei haraith brynhawn Sadwrn olaf yr Eisteddfod."

Yn enedigol o bentref Gwynfryn, cafodd Mrs Roberts ei haddysgu yno ac yn Wrecsam, cyn graddio mewn cerddoriaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Bu'n dysgu cerdd yn Ysgol Ramadeg y Merched, Bangor, cyn priodi â Fred a symud i fyw i Gaeredin a Nantwich.

Dychwelodd y teulu i Wrecsam ar ddechrau'r 1970au, ac yno y magwyd eu tair merch - Helen, Bethan a Rhian.

Bellach, mae hi a'i phriod wedi ymgartrefu yn Llanfairpwll.

Parti'r Ffin

Sefydlodd Barti'r Ffin yn 1974 ac fe gafodd y parti lwyddiant mawr am 18 mlynedd, gan gystadlu'n genedlaethol fel parti a chôr cerdd dant.

Yn 1980 fe wnaeth y parti gynrychioli Cymru mewn Gŵyl Geltaidd yn Salzburg.

Bu'n hyfforddi unigolion a chorau'r ardal am flynyddoedd, ac roedd hefyd yn organydd yng Nghapel y Groes, Wrecsam.

Cyn ymddeol, roedd yn ddarlithydd cerdd yng Ngholeg Iâl.

Mae'n feirniad cerdd dant yn yr Eisteddfod eleni.

Cafodd ei hurddo i'r wisg wen er anrhydedd gan yr Orsedd yn Eisteddfod Genedlaethol Y Rhyl, 1985.

Cynhelir Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam a'r Fro rhwng Gorffennaf 30 ac Awst 6 ar dir Fferm Bers Isaf, Ffordd Rhuthun, Wrecsam.




NEWYDDION

POBOL Y BRIFWYL

LLUNIAU

150 O DDATHLU

ARCHIF NEWYDDION
SAIN A FIDEO
GWEFANNAU



Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific