British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mercher, 15 Mehefin 2011, 07:28 GMT 08:28 UK
Dymchwel marchnad hanesyddol

Mart Y Fenni
Mae mart Y Fenni wedi bodoli ers 150 o flynyddoedd

Mae cynghorwyr wedi cytuno i ddymchwel marchnad gwartheg a chodi archfarchnad, llyfrgell a maes parcio yn ei le.

Mae ymgyrchwyr wedi ymladd i achub mart Y Fenni ond mae Cyngor Sir Fynwy yn mynnu y byddai'n rhaid gwario miliynau o bunnoedd i'w adfer.

Mae'r cynllun a gymeradwyid gan gynghorwyr Sir Fynwy Ddydd Mawrth yn golygu adeiladu archfarchnad Morrisons, llyfrgell gyhoeddus a maes parcio gyda lle i 269 o geir.

Mae caniatâd cynllunio eisoes wedi ei roi ar gyfer marchnad anifeiliaid newydd tua 10 milltir o Raglan.

'Llesol'

Ond roedd grŵp ymgyrchu - KALM - wedi gwrthwynebu'r cynllun gan honni fod y mart 150 oed yn "ffynnu".

Mae gorymdeithiau yn erbyn y cynllun wedi denu cannoedd o bobl ac mae miloedd o bobl wedi arwyddo deiseb.

Dywedodd Jenny Long, cydlynydd KALM: "Roedd hi'n ddiwrnod trychinebus inni ddoe.

"Roedden ni'n disgwyl y penderfyniad hwn ond roedden ni hefyd yn gobeithio fod ein dadl wedi dwyn perswâd ar y cynghorwyr.

"Roedd mwy na 5,000 o bobl a 80% o berchnogion siopau'r dref yn ein cefnogi ond yn y pen draw doedd eu barn ddim yn cyfri."

Roedd Cymdeithas Dreftadaeth Y Fenni wedi beirniadu'r cynllun gan honni nad yw'n adlewyrchu cymeriad canol y dref.

Dywed y gymdeithas a grwpiau eraill gan gynnwys y Siambr Fasnach y dylai'r archfarchnad gael ei hadeiladu yn nes at ganol y dref.

Ond dywedodd adroddiad gan swyddogion y cyngor sir: "Mae ymgynghorydd y cyngor sir o'r farn y byddai'r archfarchnad yn llesol i ganol y dref."



CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific