British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mercher, 15 Mehefin 2011, 06:22 GMT 07:22 UK
Nid Alan Shearer fydd rheolwr newydd Caerdydd

Alan Shearer
Cadarnhaodd Alan Shearer ei fod wedi bod yn un o'r ymgeiswyr am swydd rheolwr y clwb

Nid Alan Shearer fydd rheolwr newydd tîm pêl-droed Caerdydd ar ôl trafodaethau "aflwyddiannus" â'r clwb.

Cadarnhaodd Shearer, 40 oed, ei fod wedi bod yn un o'r ymgeiswyr am swydd rheolwr y clwb mewn datganiad gafodd ei ryddhau gan gyn-gapten tîm pêl-droed Lloegr toc wedi hanner nos.

Ychwanegodd: "Yn ystod fy nhrafodaethau gyda'r clwb cefais fy siomi o'r ochr orau gan weledigaeth y perchennog newydd, Dato Chan Tien Ghee, a'r bwrdd.

"Ond yn anffodus, roedd y trafodaethau yn aflwyddiannus y tro hwn.

Dyrchafiad

"Mae Caerdydd yn glwb gwych ac rwy'n dymuno'r gorau iddyn nhw'r tymor nesaf."

Collodd cyn-reolwr yr Adar Glas, Dave Jones, ei swydd ar Fai 30 wedi iddo fethu â sicrhau dyrchafiad i Uwch Gynghrair Lloegr y tymor diwethaf.

Mae rhai o'r lleill sydd wedi eu cysylltu â'r swydd yn cynnwys cyn-reolwr West Bromwich Albion, Robert di Matteo; cyn-reolwr Newcastle United, Chris Hughton; rheolwr Watford, Malky Mackay a rheolwr St Johnstone, Derek McInnes.



CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific