British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 14 Mehefin 2011, 20:11 GMT 21:11 UK
Antigua: Dau wedi eu saethu yn y pen

Ben a Catherine Mullany
Roedd Ben a Catherine Mullany ar ddiwrnod olaf eu mis ml

Bu farw cwpl o dde Cymru oedd ar eu mis mêl ar Ynys Antigua o anafiadau gwn ar ôl cael eu saethu yn eu pen.

Dyna glywodd llys ar yr ynys ddydd Mawrth oedd canlyniad archwiliadau post mortem ar gyrff Ben a Catherine Mullany, o Bontardawe.

Ymosodwyd ar y ddau oedd yn 31 oed, ar yr ynys ar ddiwrnod olaf eu mis mêl ym mis Gorffennaf 2008.

Mae Avie Howell, 20 oed, a Kaniel Martin, 23 oed, yn gwadu cyhuddiadau o lofruddiaeth.

Fe wnaeth Dr Derek Simon James, uwch ddarlithydd mewn patholeg fforensig ym Mhrifysgol Caerdydd, roi tystiolaeth yn y llys oedd yn dweud bod y ddau wedi cael eu saethu yng nghefn eu pen.

Cleisiau

Cafodd Mr Mullany anafiadau mor ddifrifol fel na allai oroesi a bu farw ei wraig - oedd yn feddyg - yn syth.

Cafodd Mr Mullany ei gludo adref ond bu farw wythnos yn ddiweddarach yn Ysbyty Treforys, Abertawe.

Clywodd y llys bod Dr James wedi cynnal yr archwiliadau post mortem ar y cwpl ar Awst 5 2008.

Dywedodd bod gan Mrs Mullany, pan ofynnwyd iddo a oedd 'na anafiadau eraill, bedwar clais bach, dau ar bob braich.

Er nad oedd o wedi marw yn syth, dywedodd Dr James bod yr anafiadau "mor ddifrifol fel na allai fod wedi goroesi".

Mae'r achos yn parhau.



HEFYD
Antigua: Holi swyddog diogelwch
08 Meh 11 |  Newyddion
Antigua: Disgrifiadau manwl
06 Meh 11 |  Newyddion
Priodferch: 'Ymladd am ei bywyd'
03 Meh 11 |  Newyddion
Llys: Cwpl yn "ffrindiau mynwesol"
03 Meh 11 |  Newyddion
Antigua: 'Dim clo ar y glwyd'
02 Meh 11 |  Newyddion
Mis ml: Tystiolaeth parafeddyg
02 Meh 11 |  Newyddion
Mis ml: Achos llys yn dechrau
01 Meh 11 |  Newyddion


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific