British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 14 Mehefin 2011, 18:18 GMT 19:18 UK
Seland Newydd 92-0 Cymru (dan 20)

Charles Piutau yn cael un o 14 cais Seland Newydd
Cafodd tīm Cymru eu chwalu gan dīm cryf Seland Newydd

Fe wnaeth deiliaid Pencampwriaeth Rygbi Ieuenctid y Byd, Seland Newydd, chwalu tîm dan 20 Cymru yn Yr Eidal ddydd Mawrth.

Enillodd Seland Newydd o 92-0 yn Stadiwm Mario Battaglini yn Rovigo.

Roedd y Kiwis ar y blaen o 45-0 ar yr hanner.

Doedd gan dîm Richard Webster ddim ateb i'r Baby Blacks.

Roedd 'na saith cais yn yr hanner cyntaf gyda Sam Cane yn cael dau a Rhys Llewellyn - a anwyd yng Nghymru - yn cael un.

Parhau i ddod wnaeth y ceisaiu yn yr ail hanner.

Buddugoliaeth

Fe wnaeth torf o 3,500 weld saith cais arall i'r Baby Blacks yn yr ail hanner.

Llwyddodd Gareth Anscombe i drosi pob un ond tri chais, dau yn yr hanner cyntaf a'r trydydd yn yr ail hanner.

Roedd Seland Newydd wedi cael buddugoliaeth o 64-7 yn erbyn Yr Eidal ddydd Gwener yr un diwrnod a buddugoliaeth Cymru o 34-8 yn erbyn Yr Ariannin.

Fe fydd Cymru yn wynebu Yr Eidal yng ngêm olaf y grŵp ddydd Sadwrn pan fydd Seland Newydd yn wynebu Yr Ariannin.



HEFYD
Ariannin 8 Cymru 34
10 Meh 11 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific