British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 14 Mehefin 2011, 17:40 GMT 18:40 UK
Plaid Cymru eisiau pŵer dros ddŵr

Cronfa Ddwr Severn Trent
Cronfa ddŵr sych yn Lloegr tra bod digonedd o ddŵr yng Nghymru

Ymateb Plaid Cymru i syniad maer Llundain i ddargyfeirio dŵr o Gymru a'r Alban i dde Lloegr trwy afonydd a chamlesi yw datganoli pŵer dros ddŵr i Gymru.

Yn ôl Boris Johnson, gan fod mwy o ddŵr yn syrthio ar dir uchel Cymru a'r Alban, yr ateb i brinder dŵr yn ne a dwyrain Lloegr yw i'r gwledydd Celtaidd ddarparu'r hylif.

Mae wedi bod yn trafod â Roger Falconer, Athro ym Mhrifysgol Caerdydd, ac mae'r ddau'n gytûn mai ateb amlwg i'r broblem yw dargyfeirio dwr i ardaloedd sych y Deyrnas Gyfunol trwy gamlesi ac afonydd o ardaloedd gwlypach fel Cymru.

Yn ei golofn ym mhapur newydd y Daily Telegraph , mae Mr Johnson yn dweud "gan fod Yr Alban a Chymru ar y cyfan yn uwch i fyny na Lloegr, does bosib ei bob yn hen bryd i wneud yr amlwg - defnyddio disgyrchiant i ddod a glaw dros ben o'r mynyddoedd i ddyfrhau ac adfywio'r fasged fara o'r wlad yn y de a'r dwyrain."

Gan fod y boblogaeth yn tyfu, fe fydd mwy o alw am ddŵr medd Yr Athro Falconer.

Pwy fydd yn elwa?

Mae Llŷr Huws Gruffydd o Blaid Cymru o'r farn y byddai pobl Cymru "yn bryderus iawn" am awgrym Maer Llundain.

"Mae'n edrych ar ôl ei bleidleiswyr yn ne ddwyrain Lloegr gyda'r cynllun yma," meddai.

"Heb os, fe fyddan nhw'n cael budd ohono.

"Yr hyn sydd angen i ni ei ofyn yw sut mae pobl Cymru'n cael budd o'n hadnoddau naturiol, boed yn ddŵr, mineralau neu ynni adnewyddol.

"Dŵr yw un o asedau gorau Cymru mewn oes lle mae prinder cynyddol ohono.

"Os yw Cymru gael budd o'n hadnoddau naturiol fel y mae sawl cenedl arall yn gwneud, yna mae hi ond yn iawn i reolaeth dros yr adnoddau hynny fod yng Nghymru, gydag atebolrwydd democrataidd llawn."



CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific