British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 14 Mehefin 2011, 13:42 GMT 14:42 UK
Newid mart yn archfarchnad yn y Fenni?

Mart Y Fenni
Mae mart Y Fenni wedi bodoli ers 150 o flynyddoedd

Bydd cynghorwyr yn trafod cynllun i ddymchwel marchnad gwartheg a chodi archfarchnad, llyfrgell a maes parcio ddydd Mawrth

Mae ymgyrchwyr wedi ymladd i achub mart Y Fenni ond mae Cyngor Sir Fynwy yn mynnu y byddai'n rhaid gwario miliynau o bunnoedd i'w adfer.

Byddai'r cynllun yn golygu adeiladu archfarchnad Morrisons, llyfrgell gyhoeddus a maes parcio gyda lle i 269 o geir.

Mae caniatâd cynllunio eisoes wedi ei roi ar gyfer marchnad anifeiliaid newydd tua 10 milltir o Raglan.

'Llesol'

Ond mae'r grŵp ymgyrchu -KALM - yn gwrthwynebu'r cynllun gan honni fod y mart 150 oed yn "ffynnu".

Mae gorymdeithiau yn erbyn y cynllun wedi denu cannoedd o bobl ac mae miloedd o bobl wedi arwyddo deiseb.

Dywedodd KALM fod 92% o bobl sy'n defnyddio'r farchnad a'r rhan fwyaf o'r manwerthwyr eisiau cadw'r farchnad ar agor tra bod pobl leol, siopwyr ac ymwelwyr yn "hapus i beidio cael archfarchnad ar y safle".

Mae Cymdeithas Dreftadaeth Y Fenni wedi beirniadu cynllun gan honni nad yw'n adlewyrchu cymeriad canol y dref.

Dywed y gymdeithas a grwpiau eraill gan gynnwys Siambr Fasnach y dylai'r archfarchnad gael ei hadeiladu yn nes at ganol y dref.

Ond dywedodd adroddiad gan swyddogion y cyngor sir: "Mae ymgynghorydd y cyngor sir o'r farn y byddai'r archfarchnad yn llesol i ganol y dref."

Bydd Cyngor Sir Fynwy yn trafod y cais Ddydd Mawrth.



CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific