British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 14 Mehefin 2011, 12:12 GMT 13:12 UK
Cwmni o'r Trallwng yn creu 50 o swyddi newydd

Arwydd cwmni Bentley
Mae Cobra UK yn cyflenwi cydrannau ceir ar gyfer cwmnau fel Bentley

Mae cwmni cydrannau ceir o Bowys yn bwriadu creu 50 o swyddi ar ôl ennill cytundeb gwerth £56m i gyflenwi'r diwydiant moduro yng Ngwlad Thai, Brasil ac Indonesia.

Mae Cobra UK, sydd wedi eu lleoli yn y Trallwng, yn cyflenwi rhannau ar gyfer cwmnïau Bentley, Volvo, Audi a General Motors.

Dywed y cwmni eu bod nhw'n disgwyl i'w gweithlu ddyblu ac maen nhw'n amcangyfrif bydd gwerthiant yn cynyddu hyd at 40%.

Yn ogystal, dywed Cobra UK y gallai eu hallforion gynyddu o 60% i 90%.

Cafodd Cobra UK gymorth gyda'r cytundeb allforio gan raglen arloesedd ar gyfer busnesau Llywodraeth Cymru.

'Cynnyrch newydd'

Mae hyn yn golygu ein bod ni wedi ehangu ein hamrywiaeth cynnyrch a chynyddu ein hallforion gan ein galluogi i greu 50 o swyddi newydd
Gary Seale, Cobra UK

Wedi ei ariannu'n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, nod y rhaglen yw ceisio helpu cwmnïau Cymreig i greu cyfleoedd i wella a thyfu.

Dywedodd rheolwr gyfarwyddwr Cobra UK, Gary Seale, fod cefnogaeth y rhaglen wedi bod yn rhan annatod o lwyddiant y cwmni.

"Ni fyddai wedi bod yn bosib ehangu'r cwmni heblaw am y cymorth ariannol, wnaeth ein galluogi ni i arbrofi gyda chynnyrch newydd," meddai Mr Seale.

"Mae hyn yn golygu ein bod ni wedi ehangu ein hamrywiaeth cynnyrch a chynyddu ein hallforion, gan ein galluogi i greu 50 o swyddi newydd."

Mae Cobra UK wedi dechrau gwerthu rhannau ar gyfer y diwydiant awyrennau ac maen nhw wrthi'n datblygu sedd awyren pwysau ysgafn.

Cystadleuol

Dywedodd Edwina Hart - Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth Llywodraeth Cymru - ei bod wrth ei bodd fod cwmnïau fel Cobra UK yn elwa o'r rhaglen arloesedd ar gyfer busnesau.

"Rydym ni am i fusnesau fod yn fwy cystadleuol ac rwy'n gobeithio y byddan nhw'n manteisio ar y rhaglen, sydd yn un rhan o'r gefnogaeth gynhwysfawr sydd ar gael i sbarduno busnesau i dyfu.

Cynhelir seminar arloesedd mewn busnes yn Venue Cymru, Llandudno, rhwng 9am a 1pm Ddydd Iau Mehefin 16.



CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific