British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 14 Mehefin 2011, 10:37 GMT 11:37 UK
Henson yr hen lanc ar y teledu

Gavin Henson gyda chystadleuwyr The Bachelor
Mae Henson eisoes wedi ymddangos ar y cyfresi teledu 71 Degrees North a Strictly Come Dancing

Bydd Gavin Henson yn ymddangos ar gyfres deledu newydd lle bydd 25 merch yn ceisio swyno'r chwaraewr rygbi rhyngwladol.

Mae Henson wedi cytuno i gymryd rhan yn addasiad Prydeinig o raglen The Bachelor ar Channel 5.

Bydd Henson yn cyfarfod 25 merch a fydd yn aros mewn fila yn ne Ewrop cyn dewis ei ffefryn.

Mae Henson, 29, wedi bod yn sengl ers i'w berthynas â'r gantores Charlotte Church ddod i ben yn 2010.

Mae'n gallu bod yn anodd imi gwrdd â merched ac mae'r gyfres hon yn cynnig cyfle unigryw imi gyfarfod merched anhygoel o bob cwr o Brydain
Gavin Henson

Dywedodd llefarydd ar ran Channel 5 y dylai gwylwyr "ddisgwyl i'r merched fflyrtio, ffraeo a gwneud popeth o fewn eu gallu i geisio gwneud argraff ar Gavin".

Ond honnodd y cyn chwaraewr rygbi rhyngwladol, Gareth Llywelyn, na fyddai ymddangosiad Henson ar y rhaglen yn cydymffurfio â disgwyliadau'r cyhoedd o chwaraewyr rygbi.

Cyfresi teledu

Ychwanegodd: "Y peth pwysig yw na fydd ei ymddangosiad ar y rhaglen yn effeithio ar ei ymrwymiad i chwarae rygbi."

Dywedodd Henson: "Rydw i ar ben fy nigon i gael y cyfle i ymddangos yn the Bachelor am fy mod i'n teimlo mai dyma'r amser cywir imi ddod o hyd i'r ferch berffaith.

"Rydw i'n parhau i hyfforddi'n galed ar gyfer rygbi ond am fod y tymor yn dod i ben dyma gyfle imi ganolbwyntio ar gyfarfod â'r ferch gywir.

"Mae'n gallu bod yn anodd imi gwrdd â merched ac mae'r gyfres hon yn cynnig cyfle unigryw imi gyfarfod merched anhygoel o bob cwr o Brydain."

Mae Henson wedi ymddangos ar y cyfresi teledu 71 Degrees North a Strictly Come Dancing.

Dywedodd llefarydd ar ran Undeb Rygbi Cymru ei fod yn ofynnol bod Henson yn dechrau hyfforddi gyda charfan Cymru ar Fehefin 30 cyn gemau Cymru yn erbyn Lloegr a'r Ariannin yn ystod yr haf.

Ychwanegodd y llefarydd: "Mae Gavin yn cadw at ymrwymiad gwaith yr oedd wedi ei wneud cyn iddo gael ei ddewis yng ngharfan Cymru ac mae'r tîm hyfforddi yn ymwybodol o hynny.

"Mae pob aelod o'r garfan wedi cael patrwm hyfforddi penodol i'w dilyn pan nad ydynt yn hyfforddi gyda ni."



CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific