British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 14 Mehefin 2011, 15:38 GMT 16:38 UK
'Tudalen wag' yw'r rhaglen ddeddfu

Carwyn Jones
Fydd 'na ddim manylion am ddeddfwriaethau tan fis Gorffennaf

Mae'r Ceidwadwyr wedi beirniadu'r Prif Weinidog am ohirio cyhoeddi rhaglen ddeddfwriaethol ffurfiol ei lywodraeth tan fis Gorffennaf.

Amlinellodd Carwyn Jones 10 deddf y mae ei Lywodraeth yn gobeithio'u cyflwyno yn ystod y pum mlynedd nesaf.

Ond ar ôl y cyhoeddiad dywedodd Paul Davies, arweinydd dros dro'r wrthblaid, nad oedd yn ddigon da na wnaeth Mr Jones gyflwyno rhaglen glir o weithredu.

Ymysg y 10 deddf y mae Mr Jones a'i lywodraeth yn gobeithio'u cyflwyno y mae deddf ar roi organau, hawliau plant, seiclo a deddf i warchod treftadaeth.

'Cynllunio a hyblygrwydd'

DEDDFAU ARFAETHEDIG
Hawliau Plant
Gofal Cymdeithasol
Archwilydd Cyffredinol
Datblygu Cynaliadwy
Rhandiroedd
Llwybrau Seiclo
Cynllunio
Rhoi Organau
Addysg
Treftadaeth

"Wrth lunio'n rhaglen ddeddfwriaethol fe fyddwn yn myfyrio ar wersi a ddysgwyd o'n profiadau dros y pedair blynedd ddiwethaf wrth symud deddfwriaeth ymlaen," meddai yn y siambr ddydd Mawrth.

"Dylai rhaglen ddeddfwriaethol pum mlynedd o hyd ganiatáu cynllunio gwell a hyblygrwydd wrth gyflwyno pethau, fel eu bod wedi datblygu'n llawn ac wedi bod yn destun ymgynghoriad cyn cael eu cyflwyno."

Yn siarad wedi'r drafodaeth ar y datganiad yn y siambr, dywedodd Mr Davies bod "rhaglen lywodraethu Carwyn Jones yn dudalen wag".

"Llai na chwe wythnos i mewn i dymor newydd y Cynulliad mae wedi dod i'r amlwg, ar ôl 12 mlynedd bod y Llywodraeth Lafur hon wedi blino ac yn brin o syniadau," meddai.

"Mae hi'n siom, wedi wythnosau o wamalu, bod Gweinidogion eto i gyflwyno rhaglen lywodraethu glir."

Disgrifiodd Ieuan Wyn Jones, arweinydd Plaid Cymru, diffyg rhaglen glir fel "siomedig" tra bod y Democratiaid Rhyddfrydol yn synnu at y "diffyg manylder" yn y datganiad.



HEFYD
Beirniadu'r Prif Weinidog am oedi
14 Meh 11 |  Newyddion
Cynulliad: Agoriad Swyddogol
07 Meh 11 |  Newyddion
Holi Carwyn am y tro cynta
25 Mai 11 |  Newyddion
Beth nesaf i'r Cynulliad Cenedlaethol
16 Mai 11 |  Newyddion
Beirniadaeth am ddiffyg gweinidog
14 Mai 11 |  Newyddion
Llafur i lywodraethu
10 Mai 11 |  Newyddion
Carwyn yn Brif Weinidog
11 Mai 11 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific