Bu'r cwmni yn hedfan o Gaerdydd ers 2002
|
Mae'r Prif Weinidog wedi mynegi pryder am ddyfodol Maes Awyr Caerdydd. Yn ystod sesiwn holi'r Prif Weinidog dywedodd Carwyn Jones y byddai ei lywodraeth yn gweithio gyda pherchnogion y maes awyr er mwyn rhoi hwb i dwf yno, ond dywedodd bod angen edrych yn fanwl ar ei ddyfodol. Yn ôl ystadegau a gyhoeddwyd ddydd Mawrth roedd gostyngiad o 14% yn nifer y teithwyr ddefnyddiodd faes awyr Caerdydd yn 2010 a gostyngodd y nwyddau a gludwyd trwy'r awyrle o 84% i 28 tunnell. Cyhoeddodd cwmni hedfan bmibaby fis Ebrill ei bod yn dod a'r gwasanaeth o'r maes awyr i ben, sy'n golygu dim mwy o wasanaeth i gyrchfannau fel Genefa ac Ibiza. Pryder "Rwy'n pryderu am ddyfodol y maes awyr gan fod bmibaby yn gadael - does dim un cwmni awyr yn defnyddio'r maes fel ei chanolfan, mae'n bwysig sefydlu canolfan felly ac rwy'n credu bod eisiau edrych yn fanwl ar ddyfodol y maes awyr," meddai Mr Jones. "Fe fyddwn ni'n ceisio datrys sut i sicrhau'r dyfodol hwnnw gyda pherchnogion y maes awyr i sicrhau twf yno yn y blynyddoedd i ddod yn hytrach na bod cwmnïau awyr, am ryw reswm, yn gadael." Mae'r Ceidwadwyr hefyd wedi lleisio pryder am y sefyllfa. "Er nad yw'r ystadegau heddiw yn synnu neb, maen nhw unwaith eto yn ergyd i faes awyr Caerdydd," meddai Byron Davies AC, gweinidog yr wrthblaid dros Drafnidiaeth. "Mae'r ddarpariaeth teithio ryngwladol sydd ar gael o ac i Gymru yn dirywio ac mae'n niweidio busnesu Cymreig ac yn gwneud Cymru'n lle llai deniadol i fuddsoddi ynddo. "Rhaid i Weinidogion Llafur eistedd i lawr gyda phenaethiaid Maes Awyr Caerdydd i ddatblygu strategaeth glir i atal dirywiad y maes awyr a gwneud Caerdydd yn lle mwy deniadol i ddarpar fuddsoddwyr."
|