British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 14 Mehefin 2011, 11:42 GMT 12:42 UK
Y Ceidwadwyr yn galw am adfer cofnod dwyieithog

Y Senedd ym Mae Caerdydd
Tan y llynedd, roedd Cofnod y Trafodion o'r cyfarfodydd llawn yn ddwyieithog

Mae'r Ceidwadwyr am weld cofnod o drafodion y Cynulliad yn gwbl ddwyieithog, ac wedi gofyn am gwrdd â'r Llywydd newydd, Rosemary Butler, i drafod y sefyllfa.

Tan y llynedd roedd fersiwn ysgrifenedig ddwyieithog yn cael ei chyhoeddi o'r cofnod, Hansard Cymru.

Ond erbyn hyn dim ond areithiau Cymraeg sy'n cael eu cyfieithu a'u cyhoeddi yn Saesneg - dydy areithiau Saesneg ddim yn cael eu trosi i'r Gymraeg.

Mae'r Ceidwadwyr wedi gofyn am gwrdd â'r Llywydd newydd, Rosemary Butler, i drafod y sefyllfa.

Roedd arweinydd dros dro'r blaid, Paul Davies, yn un o'r pedwar AC a gyflwynodd gynnig i wyrdroi penderfyniad Comisiwn y Cynulliad y llynedd i newid y drefn o gael cofnod cwbl ddwyieithog o fewn 24 awr.

Cyfarfod

Ddydd Mawrth dywedodd ei fod wedi ymrwymo'n llawn i barhau â'r ymgyrch a'i fod wedi gofyn am gyfarfod gyda'r Llywydd newydd i bwyso arni i newid barn y Comisiwn ar y mater.

Yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas oedd y Llywydd pan wnaed y penderfyniad i newid y drefn, oedd yn costio £250,000 i'r Cynulliad yn flynyddol.

"Ynglŷn â'r cofnod, dw i wedi gwneud fy safbwynt yn eithaf clir ar hyn," meddai Mr Davies.

"Dylai'r cofnod fod yn ddwyieithog ac rwy'n parhau i ymgyrchu dros hynny."

Mae'n gobeithio cael cyfarfod â'r Llywydd "i wneud yn siŵr bod y cofnod yn ddwyieithog."

Dywedodd ei fod yn bolisi "i fi a 'mhlaid i."



HEFYD
'Cofnod Cymraeg yn ein Cynulliad'
03 Meh 11 |  Newyddion
Pryder am effaith penderfyniad
02 Meh 11 |  Newyddion
Cam yn ôl i'r iaith?
19 Mai 10 |  Newyddion
Cyfieithu: Dal yn bwnc llosg
22 Medi 09 |  Newyddion
Cyfieithu: Beirniadu comisiwn
04 Medi 09 |  Newyddion
Iaith: Galw am gyngor cyfreithiol
03 Medi 09 |  Newyddion
Iaith: Cyngor cyfreithiol
02 Medi 09 |  Newyddion
Cynulliad: 'Newid rheol iaith'
06 Awst 09 |  Newyddion
Iaith y Cofnod: 'Statws is'
07 Awst 09 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific