British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mercher, 15 Mehefin 2011, 05:53 GMT 06:53 UK
Plac i gofio cysylltiad Caerdydd gyda Capten Scott

Yn sefyll o'r chwith i'r dde: Y Capten Lawrence Oates, Y Capten Robert Falcon Scott, Y Swyddog Edgar Evans. Yn eistedd o'r chwith i'r dde: Henry (Birdie) Bowers a  Dr Edward Adrian Wilson
Edgar Evans, (ar y dde yn sefyll) gyda Capten Scott (canol) yn ystod y daith i'r begwn y de

Bydd cysylltiad agos Caerdydd efo taith Capten Scott i'r Antartig yn cael ei ddathlu wrth i blac newydd gael ei ddadorchuddio ar un o westai hynaf y ddinas.

Y Royal Hotel ar Heol Eglwys Fair oedd y lleoliad ar gyfer cinio ffarwelio â Scott a'i dîm ar Fehefin 14, 1910.

Ymhlith y rhai i gynnig llwnc destun oedd Y Swyddog Edgar Evans o Middleton, Rhosili, un o'r pump a gafodd ei ddewis i ymgeisio am y pegwn gyda Scott.

John Evans
John Evans yn Ystafell Capten Scott yn y Royal Hotel, Caerdydd

Bydd ŵyr Edgar Evans, John Evans, yn dadorchuddio'r plac ddydd Mercher.

Dyma'r ail blac i gofio'r cysylltiad ar ôl i'r un gwreiddiol ddiflannu 11 mlynedd yn ôl.

Bydd Mr Evans yn dadorchuddio'r plac cyn ymuno gyda pherthnasau eraill y rhai oedd yn y criw gwreiddiol i ymweld â'r Antarctig y flwyddyn nesaf.

"Mae'n anrhydedd i ddod i ddadorchuddio'r plac er cof am y daith i'r Antarctig rhwng 1910-1913," meddai Mr Evans

"Dwi'n edrych ymlaen at wireddu fy mreuddwyd o gerdded yn ôl traed fy nhaid, i weld rhai o'r golygfeydd welodd o yn y man lle llwyddodd i orchfygu'r pegwn y de, ond hefyd lle gollodd ei fywyd yng nghyd â gweddill y criw."

Colli bywyd

Dewisodd Scott Gaerdydd fel man cychwyn ei siwrne wedi i arweinwyr busnes y ddinas gynnig gymaint o gefnogaeth iddo.

Hwyliodd o dan fflag Gymreig a gafodd gan James Howells, perchennog y siop enwog, mewn llong oedd yn llawn glo o'r cymoedd a photiau coginio o Lanelli.

The Royal Hotel, Caerdydd
Yn y Royal Hotel y cafodd y cinio ffarwel ei gynnal yn 1910

Ond pan wnaeth y criw gyrraedd yr Antarctig, roedd 'na dîm arall o Norwy o'u blaen a nhw oedd y gyntaf i gyrraedd y pegwn.

Er i Scott a'i bedwar cyfaill cyrraedd eu nod ar Ionawr 17 1912, trodd y tywydd yn eu herbyn a bu farw Edgar Evans ar Chwefror 17 oherwydd yr oerni.

Bu farw'r gweddill ym mis Mawrth, dim ond 11 milltir o'r storfa fwyd.

Ar ôl darganfod bwydlen wreiddiol y cinio ffarwelio, mae cymdeithas Capten Scott yn ymgynnull yn flynyddol yn y Royal Hotel er cof am y pump a fu farw.

Mae paneli o long Scott, y Terra Nova, hefyd i'w weld yn y gwesty, ar ôl iddyn nhw eu hachub o leiandy oedd yn cael ei ddymchwel.

Cynhelir y dadorchuddio am 11am, 101 mlynedd union wedi i Captain Scott a'i dîm hwylio o borthladd Caerdydd.



CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific