Bu nifer o ddamweiniau ar y ffordd yn y gorffennol
|
Mae cwmni wedi cael cytundeb gwerth £150 miliwn i droi rhan o ffordd Blaenau'r Cymoedd trwy Gwm Clydach yn ffordd ddeuol. Bydd Costain Ltd yn adeiladu'r darn pedair milltir (6.4 cilomedr) o'r A465 rhwng Gilwern a Brynmawr. Mae'n rhaid i'r contractwyr gyflogi a hyfforddi pobl leol. Yn ôl y Gweinidog Trafnidiaeth Carl Sergeant, mae'n "rhan hanfodol o'n rhwydwaith trafnidiaeth ni a'r brif ffordd gyswllt rhwng gorllewin Cymru a chanolbarth Lloegr". Mae'r cwm yn cael ei ystyried yn un o'r ardaloedd pwysica' yn ne Cymru o ran ei "sensitifrwydd amgylcheddol ac ecolegol", yn ôl Llywodraeth Cymru. Dywedodd y byddai hyn yn ganolog i'r prosiect, gyda dau gwmni arall - Atkins/Halcrow ac RPS - yn rhoi cyngor amgylcheddol. Amserlen Mae'r rhaglen A465 Blaenau'r Cymoedd wedi cael ei rhannu'n ddwy ran. Cafodd y ffordd o Dredegar i Ddowlais ei hagor i gerbydau yn 2004, gyda'r gwelliannau rhwng Y Fenni a Gilwern wedi'u cwblhau yn 2008. Mae disgwyl i'r gwaith o adeiladu'r darn pedair milltir rhwng Brynmawr a Thredegar ddechrau yn hwyr yn 2012. Disgwylir i'r cynllun tair blynedd, ar gyfer y rhan rhwng Gilwern a Brynmawr, ddechrau yn 2014, gyda'r rhan ola' - o ben Dowlais i'r A470 ac o'r A470 i Hirwaun - yn dechrau yn Ebrill 2014.
|