British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Llun, 13 Mehefin 2011, 17:03 GMT 18:03 UK
Canabis: Dyn busnes i dalu £200,000 o ddirwy

Canabis (cyffredinol)
Canfu'r heddlu canabis gwerth £195,000 mewn tai ym Mhorthyrhyd, Llandeilo a Chwmafan

Mae dyn busnes a fu'n rhan o gynllun i greu ffermydd canabis wedi ei orchmynni i dalu dros £200,000 o dan gais Elw Troseddau.

Roedd gan John Ernest Lewis, 58 oed o Borthyrhyd ger Caerfyrddin, fusnes eiddo llwyddiannus pan ganiataodd i rai o'r tai i gael eu trawsnewid ar gyfer tyfu canabis.

Pan ganfu'r heddlu'r planhigion ac arestio Lewis fe wnaethon nhw ganfod ei fod e wedi dweud celwydd ynglŷn â chais am forgais.

Cafodd Lewis chwe blynedd o garchar yn 2009 am gynllwynio i wyrdroi cyfiawnder.

Yn Llys y Goron Abertawe dydd Llun fe wnaeth y Barnwr Keith Thomas orchymyn Lewis i dalu £203,293 o fewn chwe mis neu gael ei ddedfrydu i fod o dan glo am ddwy flynedd a naw mis ychwanegol.

Canfu'r heddlu canabis gwerth £195,000 mewn tai ym mhentref Porthyrhyd, yn Llandeilo a Chwmafan.



CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific