British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Llun, 13 Mehefin 2011, 16:07 GMT 17:07 UK
Chwilio am lety i gantorion y byd yn Llangollen

Drymwyr yn yr eisteddfod
Mae cystadleuwyr yr eisteddfod yn dod o bob cwr o'r byd

Mewn ychydig o wythnosau bydd Llangollen a'r ardal o'i chwmpas yn denu dros 4,000 o gystadleuwyr o dros 50 o wledydd.

Bydd eglwysi, capeli ac ysgolion yn orlawn â cherddorion, dawnswyr a chefnogwyr byd-eang wrth iddyn nhw gyrraedd i gystadlu rhwng Gorffennaf 4-10.

Yn anffodus, mae costau rhai cystadleuwyr wedi cynyddu oherwydd yr angen i dalu am fisa i gyrraedd Cymru - cymaint â £1,000 yr un i gôr gyrraedd Llangollen.

Mae trefnwyr yr Eisteddfod yn apelio ar ragor o bobl leol i agor eu cartrefi a chynnig llety am ddim i'r perfformwyr rhyngwladol wrth i'r niferoedd sy'n cystadlu gynyddu.

Alwena Hughes, ysgrifennydd pwyllgor lletygarwch Eisteddfod Llangollen sy'n gyfrifol am y trefnu.

"Mae hi'n cymryd gymaint o amser i gynllunio ble y bydd pawb yn aros ac yn ymarfer a sut y byddan nhw'n teithio i'r Eisteddfod yn ddyddiol.

"Ond pan fydd y cystadleuwyr yn cyrraedd, mae'r gwaith i gyd yn werth chweil.

Gwirfoddoli

"Rydym yn annog pobl sydd â diddordeb mewn cyfrannu i gysylltu â'r Eisteddfod, er mwyn i ni allu cychwyn y broses o asesu a ydy'r cynigion yn addas ar gyfer cynnal llety mewn da bryd ar gyfer yr Eisteddfod."

Yn ogystal â chwilio am bobl i gynnig eu tai ar gyfer llety, mae'r Eisteddfod yn awyddus i ddenu unigolion a chwmnïoedd i noddi grŵp ymweld ar gyfer yr Eisteddfod a phobl i ymuno â chriw o wirfoddolwyr.

Dywedodd rheolwraig hybu incwm yr Eisteddfod, Christine Dukes; "Heb y rhoddion a'r nawdd gan gwmnïoedd, ni fyddai nifer o gystadleuwyr yn medru ymuno â ni yn Llangollen eleni.

"Gall busnesau cynnig staff i wirfoddoli fel rhan o'i bolisi cyfrifoldeb cymdeithasol. Rydym angen rhai i helpu stiwardio, gwerthu tocynnau, helpu allan yn ein pabelli a chynnig llety.

"Pan roeddwn yn ddeg, ddaru mam wahodd pobl i ddod i aros efo ni ac roedd yn brofiad gwych i rannu profiadau gyda phobl o wledydd gwahanol, a hefyd cael ein gwahodd i ymweld â nhw - dyna beth mae Eisteddfod Llangollen wedi bod yn ceisio gneud ers 1947."



HEFYD
Trafferth i gyrraedd Llangollen
08 Meh 11 |  Newyddion
Cynnig arbennig i ddathlu penblwydd
02 Mai 11 |  Newyddion
Lulu a'i ffrindiau yn Llangollen
24 Ebr 11 |  Newyddion
Cyngerdd Gala Llangollen
05 Gorff 10 |  Newyddion
Pryder fisas yn Eisteddfod Llangollen
14 Meh 01 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific