Mae arweinydd Plaid Cymru yn dweud iddo roi'r "flaenoriaeth" i'w deulu yn hytrach na mynychu agoriad swyddogol y Cynulliad gan Y Frenhines yr wythnos diwethaf.
Yn ei gyfweliad cyntaf â BBC Cymru ers dychwelyd o wyliau estynedig mae Ieuan Wyn Jones yn dweud nad oedd erioed wedi bwriadu creu embaras i neb trwy ei absenoldeb.
Ond dywedodd ei fod wedi ad-drefnu gwyliau "sawl tro er mwyn sicrhau mod i'n cario allan fy nyletswyddau cyhoeddus ond o'n i'n meddwl am unwaith bod fy nheulu i'n haeddu'r flaenoriaeth".
Daeth Mr Jones o dan y lach pan ddaeth i'r amlwg mai'r Aelod Cynulliad Jocelyn Davies, cyn Weinidog Tai Plaid Cymru, oedd yn cyfarch Y Frenhines yn ystod yr agoriad swyddogol ar ran Plaid Cymru yn hytrach na'i harweinydd.
Cefnogaeth
Y diwrnod canlynol, yn ystod sesiwn holi'r Prif Weinidog, pan wnaeth Ms Davies feirniadu record Llafur fe wnaeth Carwyn Jones nodi absenoldeb ei gyn-Ddirprwy gan ofyn i Ms Davies "Ble mae'ch arweinydd chi?".
"Rydych chi'n ein cyhuddo ni o beidio cael unrhyw fath o raglen o lywodraeth ond dydy'ch arweinydd chi ddim hyd yn oed yn y siambr," meddai Mr Jones.
Dwi'n credu ar rai adegau ei bod hi'n bwysig bod rhywun yn rhoi ei deulu'n gyntaf
Ieuan Wyn Jones, Arweinydd Plaid Cymru
Roedd ymateb chwyrn i absenoldeb Mr Jones y tu allan i'r Cynulliad hefyd.
Doedd neb gafodd eu holi gan BBC Cymru yn ei etholaeth, Ynys Môn, yn cefnogi ei absenoldeb o'r seremoni.
Ond mae Mr Jones yn ddiedifar.
"Ar ôl 24 mlynedd o fywyd cyhoeddus ro'n i'n teimlo bod fy nheulu i'n haeddu cael cyfnod efo fi am bythefnos," meddai.
"Dw i ddim yn siŵr fedrwch chi ddweud ei fod o'n gamgymeriad oherwydd mi roeddwn i'n ymwybodol iawn pan ddoth y cyhoeddiad y byddai clash.
"Mi wnes i wneud yn glir na fyddwn i ddim ar unrhyw gyfri eisiau embarasio neb oherwydd nad oeddwn i yma a dw i ddim yn credu mod i wedi gwneud hynny.
"Dwi'n deall bod pobl yn siomedig, dwi'n ymwybodol iawn o hynny ond dwi'n credu ar rai adegau ei bod hi'n bwysig bod rhywun yn rhoi ei deulu'n gyntaf."
'Amserlen glir'
Cyhoeddodd Mr Jones fis diwethaf ei fod yn bwriadu ymddiswyddo fel arweinydd Plaid Cymru o fewn hanner cyntaf tymor y Cynulliad.
Ar waethaf adroddiadau yn y wasg bod aelodau o Blaid Cymru bellach eisiau iddo fynd yn syth, mae Mr Jones yn gwadu hynny.
Carwyn Jones yw un sy'n feirniadol o'i gyn Ddirprwy
"Os oes ganddyn nhw rywbeth i'w ddweud, mae 'nrws i'n agored," meddai am unrhyw un allai fod eisiau dweud wrtha i fynd yn syth - ond dydy e "ddim yn ymwybodol" o unrhyw un sydd eisiau hynny.
"Dwi wedi dweud beth ydy'r amserlen y bydda i'n mynd," meddai.
"Nid fy amserlen i oedd hon ond amserlen o'n i wedi cytuno efo'r blaid.
"Y consensws amlwg oedd nad oedd neb eisiau etholiad buan a dwi wedi parchu'r farn honno.
"Dyna beth mae'r blaid wedi dweud wrtha i ddylai ddigwydd a dyna fydd yn digwydd."
Dymuniad Mr Jones ydy i'r cyhoedd a'r wasg roi'r sefyllfa "mewn cyd-destun".
"Am unwaith mewn chwarter canrif, dw i wedi rhoi 'nheulu gynta," meddai.
"Beth sydd eisiau i ni ei wneud nawr yw edrych ar ddyfodol yr hyn sy'n digwydd yng Nghymru a sicrhau'n bod ni'n edrych ar y ffordd mae'r Llywodraeth yng Nghymru yn gadael Cymru i lawr oherwydd mae'r Alban yn symud ymlaen mor gyflym ac mae Cymru'n cael ei gadael ar ôl."
Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.