British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Llun, 13 Mehefin 2011, 15:19 GMT 16:19 UK
Arestio dynes am ffilmio cynghorwyr

Jacqui Thompson
Dywed Mrs Thompson fod yr awdurdodau wedi gorymateb

Mae dynes gafodd ei harestio am ffilmio cyfarfod cyngor sir ar ei ffôn symudol yn dweud fod yr awdurdodau wedi gorymateb.

Dywed Jacquie Thompson, 49 oed, o Lanwrda, Sir Gaerfyrddin, fod yr heddlu wedi ei thywys mewn cyffion o swyddfeydd y cyngor i Lanelli a'i chadw yn y ddalfa am bedair awr.

Roedd hi wedi bod yn ffilmio rhan o gyfarfod y cyngor sir ar gyfer ei blog.

Dywed y cyngor nad oes gan unrhyw un hawl i ffilmio cyfarfodydd a bod yr heddlu wedi eu galw ar ôl i Mrs Thompson anwybyddu sawl cais i beidio ffilmio.

Gohirio cyfarfod

Cafodd Mrs Thompson ei harestio mewn cyfarfod llawn o'r cyngor wrth i ddeiseb gael ei chyflwyno yn gwrthwynebu cau canolfan ddydd yn Llandeilo.

Bu'n ffilmio o'r galeri cyhoeddus.

Yn ddiweddarach fe gyhoeddodd y fideo ar YouTube.

Yn y fideo mae'n bosib clywed swyddogion y sir yn gofyn iddi roi'r gorau i ffilmio.

Mae hi i'w clywed yn ymateb: "Dwi'n gwneud dim o'i le, dwi ddim yn amharu ar y cyfarfod."

Yna mae'r cyfarfod yn cael ei ohirio.

Dywedodd Mrs Thompson wrth BBC Cymru ei bod wedi cael ei harestio ar amheuaeth o darfu ar yr heddwch.

'Mwy agored'

Aed â hi i orsaf yr heddlu yn Llanelli.

"Roedd o'n sefyllfa gas iawn, doedd o ddim yn bleserus. "

Dywedodd fod yr heddlu ond wedi ei rhyddhau ar yr amod na fyddai'n ffilmio cyfarfod o'r cyngor eto.

Mae Mrs Thompson yn gynghorydd cymuned ac wedi bod yn ysgrifennu blog ers 2009.

"Rwyf o'r farn fod hwn yn fater cyhoeddus, maen nhw yna i gynrychioli'r cyhoedd ac yn gwneud penderfyniadau ar ran yr etholwyr.

"Dwi'n methu deall pam nad ydyn nhw'n fodlon bod yn fwy agored."

Dywedodd Heddlu Dyfed Powys: "Fe wnaeth yr heddlu siarad â dynes 49 oed ond roedd hi'n gwrthod cydweithredu.

"Fe'i harestiwyd er mwyn atal iddi darfu ar yr heddwch."

Fe'i rhyddhawyd yn ddigyhuddiad.

Dywedodd llefarydd ar ran y cyngor: "Fe wnaeth Ms Thompson wrthod sawl cais i beidio ffilmio.

"Does dim caniatâd i ffilmio yn y siambr.

"Ar ôl hynny fe wnaeth hi wrthod sawl cais i adael y galeri cyhoeddus.

"Doedd dim dewis gan y Cadeirydd ond i alw'r heddlu er mwyn ei symud ac er mwyn i'r cynghorwyr allu parhau â'u gwaith."



CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific