British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 14 Mehefin 2011, 10:43 GMT 11:43 UK
Galw ar gyngor sir i beidio cau tai bach

Toiledau Llansteffan
Byddai colli'r toiledau yn "broblem fawr" yn l un cynghorydd lleol

Dywed pentrefwyr yn y gorllewin eu bod yn poeni y bydd cau toiledau cyhoeddus yn golygu y bydd llai o dwristiaid yn ymweld â'r lle.

Mae Cyngor Cymuned Llansteffan yn Sir Caerfyrddin wedi galw ar y cyngor i beidio â chau'r toiledau fel modd o arbed arian.

Yn ôl y cyngor cymuned, mae ymwelwyr yn dibynnu ar y toiledau cyhoeddus wrth y traeth ac yng nghanol y pentref.

Dywed Cyngor Sir Caerfyrddin bod angen arbed arian ac un modd o wneud hynny fyddai trosglwyddo'r gost o gynnal toiledau cyhoeddus i'r cynghorau cymuned.

Mae Daff Davies, aelod o gyngor cymuned Llansteffan a chynghorydd sir lleol, yn dweud na allai'r cyngor lleol ysgwyddo'r baich.

"Mae'r cyngor sir am i ni gymryd y cyfrifoldeb o edrych ar ôl y toiledau ond bydd hynny'n costio £7,000 y flwyddyn.

"Fel cyngor cymuned ry' ni ond yn gallu codi trethi gwerth rhyw £15,000 felly byddai hyn yn hanner y gost, gallwn ni byth ei fforddio fe.

'Problem fawr'

"Fi'n gallu gweld bod y cyngor sir angen arbed arian ...ond gallwn ni byth ei fforddio fe."

Dywedodd y byddai bod heb doiledau yn creu problem fawr.

Traeth Llansteffan
Mae miloedd yn ymweld thraeth Llansteffan yn yr haf

"Gyda channoedd yn eu defnyddio bob dydd yn ystod yr haf bydd e'n fater o iechyd a diogelwch", meddai.

Mae'r cyngor sir yn cynnal arolwg o'u gwasanaethau a chyfleusterau cyhoeddus er mwyn ceisio arbed hyd at £30 miliwn.

Dywedodd Richard Workman, cyfarwyddwr gwasanaethau technegol Cyngor Sir Caerfyrddin:

"Does dim penderfyniad wedi ei wneud ar doiledau cyhoeddus a sut bydd yr arolwg yn effeithio hynny.

"Fe fydd yna benderfyniad yn cael ei wneud yn y dyfodol agos a bydd cynghorau tre' a chynghorau cymuned yn cael eu hysbysebu."



CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific