British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Llun, 13 Mehefin 2011, 07:01 GMT 08:01 UK
Mike Phillips yn symud o'r Gweilch i Bayonne

Mike Phillips
Ymunodd Phillips 'r Gweilch o'r Gleision yn 2007

Mae mewnwr Cymru, Mike Phillips, wedi arwyddo gyda thîm Bayonne o Ffrainc ar ôl i'r Gweilch gytuno i'w ryddhau.

Roedd Phillips, 28 oed, wedi gofyn i swyddogion am ganiatâd i symud a chadarnhaodd Bayonne ddydd Llun fod y chwaraewr wedi arwyddo cytundeb dwy flynedd, gydag opsiwn i ymestyn i dair blynedd.

Cafodd y cyhoeddiad ei wneud ar wefan swyddogol y clwb.

Fe ymunodd cyn-chwaraewr Llanelli a'r Gleision gyda'r Gweilch yn 2007, a'r flwyddyn ganlynol roedd yn rhan o'r garfan gipiodd y Gamp Lawn ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad.

Roedd gan Phillips gytundeb gyda'r Gweilch tan 2012, ond dywedodd y rhanbarth wrtho ei fod yn rhydd i chwilio am glwb newydd.

Phillips yw'r diweddara' i adael y Gweilch ar ôl i Lee Byrne a James Hook hefyd arwyddo i glybiau yn Ffrainc.

'Symud ymlaen'

Yn ôl cyfarwyddwr rygbi'r Gweilch, Scott Johnson:

"Ar ôl sawl cais i symud gan Mike dros y 18 mis diwethaf, rydym ni wedi cytuno i adael iddo fynd cyn gynted ag y gall ddod o hyd i glwb arall.

"Dwi'n credu ein bod yn dod i sefyllfa mewn sefydliad lle mae unrhyw un sydd ddim eisiau bod yma yn symud ymlaen.

Cadarnhaodd clwb rygbi 13 y Crusaders yr wythnos ddiwetha' eu bod wedi cysylltu â Phillips ynglŷn â'r posibilrwydd o symud yno.

Yn ddiweddar mae Bayonne wedi arwyddo Joe Rokocoko, Sione Lauke a Neemia Tialata o'r Crysau Duon.

Ond wedi iddi ddod i'r amlwg ei bod yn annhebygol y byddai mewnwr y Crysau Duon, Byron Kelleher, yn symud yno o Toulouse, roedd bwlch i Phillips.

Dyw Phillips ddim wedi cael cymaint o gyfle gyda'r Gweilch ers Pencampwriaeth y Chwe Gwlad, gyda Rhys Webb yn cael blaenoriaeth.

Un fydd yn ymuno â'r Gweilch y tymor nesa' yw Kahn Fotuali o Samoa, ar ôl symud o dîm y Crusaders.

Roedd Phillips yn rhan o dîm Cymru i herio'r Barbariaid yn Stadiwm y Mileniwm ar Fehefin 4 ac mae wedi'i gynnwys yn y garfan estynedig ar gyfer Cwpan y Byd.



HEFYD
Carfan Cymru ar gyfer Cwpan y Byd
05 Meh 11 |  Newyddion
Cymru'n colli i'r Barbariaid
04 Meh 11 |  Newyddion
Mike Phillips i adael y Gweilch
13 Ebr 11 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific