British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Gwener, 10 Mehefin 2011, 18:18 GMT 19:18 UK
Copa'r Wyddfa yn wyn

Yr Wyddfa o dan eira
Cafodd yr olygfa aeafol ger Hafod Eryri ei dal ar gamera am 1pm ddydd Gwener

Er ei bod hi'n nesáu at heulsafiad yr haf roedd copa'r Wyddfa o dan eira heddiw.

Cafodd yr olygfa aeafol ger Hafod Eryri ei dal ar gamera am 1pm Ddydd Gwener.

Tra bod rhannau o Brydain o dan orchmynion sychder perodd y cwymp eira annisgwyl dipyn o syndod i bobl sy'n gweithio ar fynydd uchaf Cymru.

"Dechreuodd hi fwrw cesair amser cinio cyn iddo fwrw eira am awr wedi hynny," meddai Jonathan Tyler, rheolwr, canolfan ymwelwyr Rheilffordd yr Wyddfa.

Aer oer

"Doedd hi ddim yn oer ond roedd pobl yn cyrraedd y copa yn edrych yn ddryslyd iawn.

"Roedd hi'n ddiwrnod o haf ar waelod yr Wyddfa ond roedd hi'n ddiwrnod o aeaf ar y copa.

Dywedodd cyflwynwraig tywydd BBC Cymru, Behnaz Akhgar: "Dyw digwyddiad fel hyn ddim yn digwydd yn aml ond mae e wedi digwydd o'r blaen.

"Rydyn ni'n dioddef cyfnod oer ar hyn o bryd ac ar gyfartaledd mae'r tymheredd tua phum gradd Celsius yn llai na'r disgwyl am yr adeg hon o'r flwyddyn.

"Mae'n debygol bod cawodydd trwm ar gopa'r Wyddfa wedi llusgo aer oer ar eu hôl a achosodd y cesair a'r eira."



CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific