British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Sadwrn, 11 Mehefin 2011, 09:37 GMT 10:37 UK
Idwal Robling yn marw yn 84 oed

Idwal Robling
Bu farw Idwal Robling wedi salwch byr

Bu farw cyn sylwebydd pêl-droed y BBC Idwal Robling yn 84 oed yn dilyn salwch byr.

Dechreuodd ei yrfa wrth sylwebu ar y radio gyda BBC Cymru yn y 1960au.

Ond daeth ei gyfle mawr pan enillodd gystadleuaeth i fod yn rhan o dîm sylwebu'r BBC ar gyfer Cwpan Y Byd yn 1970, gan guro Ian St John yn y rownd derfynol.

Roedd Idwal Robling yn uchel ei barch fel pêl-droediwr amatur, ac fe gafodd ei ddewis yng ngharfan Prydain ar gyfer Gemau Olympaidd Helsinki yn 1952.

Chwaraewr

Bu'n gapten ar dîm amatur Cymru sawl gwaith tra'n chwarae i glwb Lovell's Athletic yng Nghasnewydd.

Fel sylwebydd bu'n rhan o rai o gemau enwocaf pêl-droed Cymru, gan gynnwys buddugoliaeth Caerdydd dros Real Madrid yng nghystadleuaeth Cwpan Enillwyr Cwpanau Ewrop yn 1971.

Roedd yn sylwebu ar gampau eraill hefyd megis pêl fas, rygbi 13 a bocsio, ac roedd hefyd yn gyflwynydd rhaglenni fel Sports Line UP a Sportfolio ar y BBC yn y 70au a'r 80au.

Yn fwy diweddar roedd yn aelod o dîm cynhyrchu rhaglenni rygbi gan BBC Cymru, ScrumV a'r Clwb Rygbi.

'Safonau uchel'

Dywedodd pennaeth chwaraeon BBC Cymru, Geoff Williams:

"Roedd Idwal Robling yn ddyn hynaws a fu'n rhan o Chwaraeon BBC Cymru am dros 40 mlynedd - cyfnod aruthrol - ac ni wnaeth erioed ddisgyn islaw'r safonau uchel iawn y gosododd iddo ei hunan.

"Roedd yn ysbrydoliaeth i ni gyd ac fe fydd colled enfawr ar ei ôl - hoffwn yrru ein cydymdeimlad i'w deulu yn y cyfnod trist yma."

Mae Idwal Robling yn gadael gwraig, Hazel, a thri o blant.

Mae ei ŵyr, Lewis Robling, yn chwarae rygbi i Gasnewydd a Dreigiau Gwent, ac fe enillodd ei gap cyntaf i dîm dan 20 Cymru yn eu buddugoliaeth yn erbyn Ariannin ym Mhencampwriaeth y Byd nos Wener.




Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific