Fe fydd athrawon yn cael cyfle i wella'u sgiliau iaith
|
Daeth croeso i gynllun Llywodraeth Cymru i gynorthwyo athrawon wella'u sgiliau iaith hyd at safon addysgu. Mae'r cynllun wedi cael ei anelu at athrawon sydd heb hyder yn eu Cymraeg. Mae Leighton Andrews, y Gweinidog Addysg a Sgiliau, wedi cymeradwyo mwy na £6 miliwn dros gyfnod o dair blynedd ar gyfer cyflwyno Cynllun Sabothol Iaith Gymraeg, gyda'r nod o wella safonau addysgu a dysgu mewn addysg a hyfforddiant cyfrwng Cymraeg. Dywedodd undeb athrawon UCAC eu bod yn croesawu'r cyhoeddiad, gan ddweud bod nifer o aelodau'r undeb wedi manteisio ar y cynllun peilot a gyflwynwyd yn 2005. Yn ôl Bwrdd yr Iaith, mae'r cyhoeddiad yn cryfhau neges y Bwrdd am bwysigrwydd y Gymraeg yn y gweithle. Gwella sgiliau "Mae'r Llywodraeth yn amlwg yn cymryd y Strategaeth Addysg Gymraeg o ddifrif ac yn parhau gyda pholisi'r llywodraeth ddiwethaf," meddai Rebecca Williams, swyddog polisi UCAC.
"Rydym ni wedi gweld aelodau'n manteisio ar y cynllun peilot ac yn cael budd mawr yn cynyddu eu hyder i allu dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg ac i ehangu eu cyfleon cyflogaeth." Mantais y cynllun yw ei fod yn rhoi cyfle i siaradwyr Cymraeg i loywi safon eu hiaith, a hefyd i athrawon prin eu Cymraeg gynyddu eu sgiliau iaith, meddai Ms Williams. "Mae'n golygu bod modd ehangu ar nifer y cyrsiau trwy gyfrwng y Gymraeg yn y pynciau (galwedigaethol) sydd wedi bod yn brin. "Mae'n fuddsoddiad yn y gweithlu - rydym ni'n pwyso ar ysgolion i sicrhau bod staff yn manteisio ar y cyfle." Lefelau gwahanol Bydd y cyllid yn talu am gyrsiau iaith dwys i athrawon, a hefyd yn talu am athrawon cyflenwi i addysgwyr - athrawon, cynorthwywyr dosbarth a darlithwyr - mewn ysgolion a cholegau addysg bellach. Bydd yr arian newydd yn sicrhau bod y cynllun yn cael ei gyflwyno i fwy o leoliadau nag yn 2005 ac yn cynnig cyrsiau ar nifer o lefelau gwahanol. Bydd 648 o addysgwyr ychwanegol ar eu hennill o'r cynllun. Dywedodd Llefarydd ar ran Bwrdd yr Iaith eu bod yn croesawu'r cyhoeddiad. "Gyda chynnydd blynyddol yn y galw am addysg cyfrwng Cymraeg mae'n allweddol fod y Llywodraeth yn buddsoddi mewn rhaglenni hyfforddiant er mwyn sicrhau ymarferwyr cymwys a hyfedr i weithredu amcanion y Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg," meddai. "Yn ogystal, mae'r cyhoeddiad yn atgyfnerthu neges y Bwrdd ynglŷn â'r angen am sgiliau dwyieithog yn byd gwaith yng Nghymru heddiw." Dywedodd Mr Andrews: "Drwy'r Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg rydym wedi ymrwymo i greu gweithlu sydd â digon o ymarferwyr o ansawdd da, sy'n meddu ar sgiliau iaith Gymraeg ar gyfer pob cyfnod addysg a hyfforddiant. "Mae'r Cynllun Sabothol Iaith Gymraeg yn cefnogi'r nod hwn yn llwyr a bydd yr arian a gyhoeddwyd gennyf, sef £6 miliwn dros y tair blynedd nesaf, yn galluogi mwy o ymarferwyr i gael y cyfle i ddatblygu'u sgiliau iaith Gymraeg ar gyfer addysgu ar bob lefel."
|