British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Gwener, 10 Mehefin 2011, 10:21 GMT 11:21 UK
77,000 yng Nghymru yn hawlio budd-daliadau

Canolfan waith
Mae 77,000 o bobl Cymru yn derbyn budd-dal di-waith

Yn ôl yr Adran Waith a Phensiynau mae dros 77,000 o bobl yng Nghymru wedi bod yn hawlio budd-daliadau ers dros ddegawd.

Caiff y ffigyrau eu rhyddhau wrth i gynllun newydd Llywodraeth Prydain i gael mwy o bobl i'r byd gwaith ddechrau.

Gobaith gweinidogion yw sicrhau bod miliwn o bobl sydd ar fudd-daliadau yn dychwelyd i'r gweithle dros y ddwy flynedd nesa.

Cwmnïau preifat fydd yn gyfrifol am gael hyd i'r swyddi.

Ond mae un AS wedi rhybuddio na fydd y cynllun yn gweithio mewn ardaloedd fel Merthyr Tudful sydd â llai o swyddi.

Mae Chris Ruane yn AS Dyffryn Clwyd gan gynrychioli'r Rhyl, un o'r llefydd gyda'r gyfradd waetha o ran cyflogaeth yn y wlad.

Llefydd gwaith

Mewn un ward yn y Rhyl mae hanner yr oedolion ar fudd-daliadau allan o waith.

"Fe fydd y cwmnïau preifat yn cael eu beirniadu ar ganlyniadau ac yn canolbwyntio ar ardaloedd lle mae 'na swyddi," meddai Mr Ruane.

"Fydd llefydd eraill ddim yn darged iddyn nhw.

"Bydd yn dibynnu ar sut mae'r cytundebau wedi llunio."

Dywedodd bod 50% o bobl ei etholaeth (13,000) yn gweithio yn y sector gyhoeddus.

"Mae'r Prif Weinidog eisiau cwtogi eu swyddi rhwng 10% a 25%," meddai.

"Dyma'r bobl sydd efo sgiliau ac fe fyddan nhw'n cael eu gwthio o'r neilltu, fe fydd y rhai sydd â phroblemau anllythrennog neu broblemau cyffuriau ac alcohol yn mynd yn waeth."

Un o'r cwmnïau sydd wedi cael cytundeb i ganfod gwaith i'r rhai ar fudd-daliadau yw Working Links Wales.

Dywedodd eu cyfarwyddwr Marcella Maxwell eu bod eisoes wedi gwneud gwaith da mewn ardaloedd fel Merthyr Tudful a Blaenau Gwent lle mae 'na lefel uchel o ddiweithdra.

Ail hyfforddi

Gwadodd y byddai'r cwmni yn canolbwyntio yn unig ar ardaloedd lle ceir canlyniadau da.

"Dwi'n gwybod bod 'na her o'n blaen ond rydym wedi bod yn gweithio ym Merthyr a Blaenau Gwent am 10 mlynedd ac rydym yn gwybod bod 'na broblemau tymor hir a bod 'na lwyddiant wedi bod yna.

"Allwn ni ddim dweud nad oes 'na ardal lle allwn ni ddim mynd.

"Mae ganddom ni gynllun teithio i weithio hefyd sy'n annog pobl i fynd i rannau eraill o'r cymoedd, Caerdydd neu Gasnewydd i weithio."

Dywedodd y bydd y bobl yma yn derbyn cynllun arbennig ac os nad oes swyddi y byddan nhw'n cael eu hail hyfforddi ar gyfer y swyddi sydd ar gael.

Dywedodd Chris Grayling, Gweinidog Cyflogaeth Llywodraeth San Steffan wrth BBC Cymru, y bydd y cwmnïau yn cael mwy o arian os fyddan nhw'n llwyddiannus yn canfod gwaith i'r bobl ond eu bod yn parhau yn y gwaith am amser hir.

"Mae 'na 500,000 o swyddi yn yr economi, ac mae 'na swyddi yng Nghymru," meddai.

"Rhaid i ni sicrhau ein bod yn cynnig cefnogaeth i'r rhai sydd wedi bod yn ddi-waith yn yr hir dymor a'u cefnogi pan mae 'na gyfloedd iddyn nhw ddechrau gweithio."

Mae grŵp ymchwil The Work Foundation wedi rhybuddio mai bach iawn o gynnydd fydd 'na i'r rhai sy'n byw mewn ardal isel o ran cyflogaeth yn y DU.



HEFYD
Busnesau: 'Prinder sgiliau'
13 Ebr 11 |  Newyddion
Carcharu am dwyll budd-daliadau
04 Mai 11 |  Newyddion
Canolfan waith i gau
13 Mai 11 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific