British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Gwener, 10 Mehefin 2011, 09:20 GMT 10:20 UK
'Blwyddyn orau' cwmni bwyd Iceland

Un o siopau Iceland
Roedd gwerthiant i fyny 5.9%

Mae cwmni bwyd Iceland, sydd â'i bencadlys ar Lannau Dyfrdwy, yn dweud eu bod wedi cael eu "blwyddyn orau" y llynedd.

Mae elw net cyn treth i fyny 14.8% i £155.5 miliwn, o'i gymharu â £135.4 miliwn yn 2010.

Roedd gwerthiant i fyny 5.9% i £2.388 biliwn o'i gymharu â £2.256 biliwn yn 2010, ac fe wnaethon nhw agor 20 storfa net gan greu 1,500 o swyddi ychwanegol.

Dywedodd Prif Weithredwr Iceland, Malcolm Walker: "Rwyf wrth fy modd i adrodd am ein blwyddyn orau eto.

"Dyma ein chweched flwyddyn yn olynol o dwf.

"Rydym yn ffynnu mewn marchnad hynod gystadleuol."



HEFYD
Iceland i ddiswyddo 400 o weithwyr
14 Maw 05 |  Newyddion
Sylfaenydd yn arwain cwmni
11 Chwef 05 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific