British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Iau, 9 Mehefin 2011, 18:44 GMT 19:44 UK
Trelars: Gweithwyr yn derbyn cynnig cyflog newydd cwmni

Trelars
Cafodd cyfres o streiciau eu cynnal

Mae gweithwyr cwmni Ifor Williams yn Sir y Fflint wedi gohirio unrhyw weithredu diwydiannol pellach ar ôl pleidleisio i dderbyn cynnig diweddara'r cwmni.

Roedd y gweithwyr ar Lannau Dyfrdwy wedi cynnal cyfres o streiciau oherwydd eu bod yn anhapus â chynnig cyflog y cwmni.

Roedd disgwyl i bron 40 o aelodau undeb Unite fynd ar streic ddeuddydd dydd Iau.

Dywedodd y cwmni eu bod yn falch bod y gweithwyr wedi derbyn y cynnig diweddara.

Cafodd trafodaethau eu cynnal gyda chymorth Acas ac fe ohiriwyd y streic.

Dywedodd swyddog undeb Tony Brady bod y cwmni wedi rhoi cynnig cyflog gwell, a bod y cynnig wedi ei dderbyn gan fwyafrif o bump.

'Neb am fod ar streic'

Aeth ymlaen i ddweud y bydd trafodaethau pellach yn cael eu cynnal ddechrau mis Chwefror.

"Rydym wedi derbyn hyn ar sail bod y cwmni yn symud yn ei flaen," meddai.

"Mae'n fusnes llwyddiannus ac ar ddiwedd y dydd, does neb eisiau bod ar streic."

Mae'r gweithwyr wedi cynnal tair streic diwrnod dros y ddau fis diwethaf a'r wythnos diwethaf cafodd streic deuddydd ei chynnal.

Dywedodd llefarydd ar ran Cwmni Trelars Ifor Williams eu bod yn falch bod y gweithwyr wedi derbyn y cynnig diweddara.

"Daw hyn mewn cyfnod pan fod ansicrwydd yn y farchnad yn parhau i gael effaith ar ein gwaith cynhyrchu ar Lannau Dyfrdwy."

Roedd y gweithwyr wedi cael cynnig o godiad cyflog o 1.5%, ond yn mynnu y dylen nhw gael yr un cyflog a gweithwyr y cwmni yn eu ffatri yng Nghorwen.

Does 'na ddim manylion am y cynnig newydd.



HEFYD
Trelars: Streic wedi ei gohirio
09 Meh 11 |  Newyddion
Streic gan weithwyr trelars
02 Meh 11 |  Newyddion
Streic arall gan weithwyr trelars
04 Mai 11 |  Newyddion
Streic staff cwmni trÍlars
27 Ebr 11 |  Newyddion
Streic gyntaf staff cwmni trÍlars
19 Ebr 11 |  Newyddion
Staff cwmni trÍlars i fynd ar streic
15 Ebr 11 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific