British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Iau, 9 Mehefin 2011, 18:30 GMT 19:30 UK
Bachgen 10 oed yn achub ei dad

Tom Phillips ar y tractor
Fe wnaeth Tom Phillips yrru'r tractor tuag at y tarw

Llwyddodd bachgen 10 oed i atal tarw rhag ymosod yn fwy difriol ar ei dad wrth yrru tractor.

Cred mam Tom Phillips na fyddai ei gŵr yn dal yn fyw oni bai am ymateb ei mab.

Roedd Tom yn bresennol wrth i darw ymosod ar ei dad Andrew ar eu fferm yn Y Fenni.

Ar ôl mynd i mewn i'r tractor a gyrru at yr anifail fe wnaeth y tarw symud o'r ffordd cyn i Tom alw am gymorth.

Roedd Andrew Phillips wedi torri 10 asen ac roedd ganddo anafiadau mewnol.

"Dim ond oherwydd ymateb gwych Tom wnaeth Andrew ddianc," meddai Amanda Phillips, mam Tom.

"Fo ydi fy arwr bach i. Does 'na ddim geiriau i ddisgrifio fy malchder."

999

Roedd Tom a'i dad mewn cae pan ddaeth y tarw Limousin yn pwyso 907 cilogram (2,000 pwys) tuag ar Mr Phillips.

Wrth i'r tarw ymosod ar Mr Phillips, 46 oed, fe aeth Tom i mewn i'r tractor.

Er nad oedd yn cael gyrru'r tractor fe wnaeth danio'r injan a chychwyn gyrru yn araf tuag at y tarw.

Tom Phillips a'i dad Andrew
Tom a'i dad Andrew a fu yn yr ysbyty am bythefnos wedi'r ymosodiad

Llwyddodd i'w symud oddi wrth ei dad.

Yn poeni fod ei dad wedi marw rhedodd yn ôl i'r tŷ i alw am gymorth ei fam.

Fe wnaeth Mrs Phillips, 39 oed, alw 999 cyn rhedeg at ei gŵr.

Er ei bod wedi ei hyfforddi fel person cymorth cyntaf, doedd hi ddim yn gallu canfod curiad calon.

Cafodd Mr Phillips ei gludo i'r uned gofal dwys o'r fferm gan hofrennydd y llu awyr.

Ar ôl pythefnos cafodd ei ryddhau ddydd Iau.

Brawychus

Dywedodd Mrs Phillips bod o'n brofiad brawychus i Tom weld y tarw yn ymosod ar ei dad.

"Mae'n addoli ei dad, ac roedd yn siŵr bod y tarw wedi ei ladd," meddai.

"Dydan ni ddim yn gadael iddo yrru'r tractor, ond mae'n amlwg ei fod wedi gwylio Andrew tu ôl i'r llyw ac yn gwybod be i'w wneud."

Dywedodd bod Tom yn poeni am yrru dros goesau ei dad.

"Roedd yn rhywbeth ofnadwy i fachgen mor ifanc ei wynebu ac mae o wedi cael sawl hunlle ers hynny.

"Ond fe ddylai fod yn falch iawn o'i hun."

Dywedodd Tom ei fod yn falch bod ei dad yn mynd i fod yn iawn.

"Roeddwn yn bryderus am yrru'r tractor ond roedd rhaid i mi wneud rhywbeth."

Mae'r tarw, oedd wedi cael ei logi gan stabl leol wedi gadael fferm erbyn hyn.




Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific