British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Iau, 9 Mehefin 2011, 12:09 GMT 13:09 UK
Eisteddfod: Gwersi Cymraeg i fusnesau lleol

Staff Starbucks
Rhai o staff Starbucks yn Wrecsam yn cael gwers Gymraeg

Mae Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam a'r Fro yn cynnig cyngor a chymorth ymarferol i gwmnïau a busnesau sy'n awyddus i gynnig croeso Cymraeg i ymwelwyr yn ystod wythnos gyntaf mis Awst.

Cwmni Starbucks yw'r cyntaf yn Wrecsam i gynnal sesiynau blasu Cymraeg ar gyfer staff, er mwyn sicrhau'u bod nhw'n gallu ymuno yn hwyl yr ŵyl, pan gynhelir yr Eisteddfod yn y dref.

Cynnig blas o'r iaith yw'r bwriad yn ôl Hywel Wyn Edwards, Trefnydd yr Eisteddfod.

"Mae ymweliad yr Eisteddfod wedi cael croeso brwd ymysg y di-Gymraeg a'r rheini sy'n ystyried dysgu Cymraeg yn yr ardal," meddai.

"Ein bwriad yw rhoi blas o'r iaith i bobl sy'n gweithio mewn caffis, bwytai a gwestai, yn y gobaith y bydd rhai ohonyn nhw'n dewis dysgu'r Gymraeg ac yn gallu cynnig gwasanaeth dwyieithog yn y dyfodol.

"Rydym yn awyddus iawn i weld mwy o fusnesau'n dilyn esiampl Starbucks ac yn cysylltu i drefnu sesiynau Cymraeg ar gyfer staff.

'Hwyliog'

"Mae'r sesiynau'n fyr ac yn hwyliog ac rydym yn hyderus y byddan nhw'n rhoi digon o hyder i bobl gyfarch ymwelwyr yn ddwyieithog ac i gynnal sgwrs fer yn y Gymraeg wrth weini.

"Rydym yn gwybod bod cwsmeriaid Cymraeg eu hiaith yn gwerthfawrogi gwasanaeth Cymraeg a dwyieithog, ac fe fydd hyn yn sicr o greu argraff ffafriol yn ystod yr Eisteddfod ac yn y dyfodol."

Mae gwaith yr Eisteddfod gydag oedolion sy'n dysgu Cymraeg neu sy'n awyddus i ddysgu'r iaith yn rhan bwysig o weledigaeth y Brifwyl, a'r wythnos hon, bydd tocynnau seremoni Dysgwr y Flwyddyn yn mynd ar werth.

Dyma uchafbwynt cystadleuaeth hynod boblogaidd, ac fe'i cynhelir yn Neuadd Goffa Wrecsam, nos Fercher 3 Awst, pan gyhoeddir enw enillydd y wobr a llun hardd gan yr artist Max Hamblen.




NEWYDDION

POBOL Y BRIFWYL

LLUNIAU

150 O DDATHLU

ARCHIF NEWYDDION
SAIN A FIDEO
GWEFANNAU



Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific