British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mercher, 8 Mehefin 2011, 19:21 GMT 20:21 UK
Antigua: Holi swyddog diogelwch

Ben a Catherine Mullany
Cafodd Ben a Catherine Mullany eu lladd ar ddiwrnod olaf eu mis mÍl

Dywedodd swyddog diogelwch mewn achos llofruddiaeth yn Antigua ei fod yn bosib ei fod wedi syrthio i gysgu tra ar ddyletswydd.

Roedd Ian Newall yn gweithio ar y noson cafodd Catherine a Ben Mullany eu lladd yng Ngwesty Cocos.

Mae Avie Howell, 20, a Kaniel Martin, 23, yn gwadu cyhuddiadau o lofruddiaeth.

Dywedodd Mr Newall wrth yr Uchel Lys ei bod yn bosib ei fod wedi mynd i gysgu yn ystod ei shifft.

Roedd o ar ddyletswydd rhwng 7pm a 7am ar Orfennaf 27, 2008.

Dywedodd y swyddog diogelwch ei fod yn bosib cysgu hyd yn oed tra'n sefyll.

Ychwanegodd y byddai unrhyw un oedd yn gorwedd ar ddyletswydd yn cael ei ddiswyddo.

Gwaed

Dywedodd nad oedd o weld gweld unrhyw beth amheus cyn i ddau westai ddechrau gweiddi arno.

Yna aeth i'r bwthyn lle'r oedd Mr a Mrs Mullany o Gwm Tawe yn aros.

Dywedodd iddo weld corff Mrs Mullany, 31 oed, ar y llawr.

Roedd gwaed ar gefn gwar ei gwr ac ar y gwely.

Ar ôl i'r heddlu gael eu galw, dywedodd Mr Newall iddo archwilio'r ardal o amgylch y bwthyn.

Roedd giât i fwthyn cyfagos wedi ei agor, felly fe wnaeth o ei gau.

Mae'r ddau ddiffynnydd hefyd yn gwadu iddynt ladd perchennog siop leol Woneta Anderson, 43.

Roedd y cwpwl ar ddiwrnod ola' eu mis mêl pan dorrodd o leia' un dyn arfog i mewn i'w hystafell yn y gwesty.

Bu farw, Mrs Mullany, oedd yn feddyg, yn fan a'r lle a chafodd ei gŵr, myfyriwr ffisiotherapi, ei anafu'n ddifrifol.

Cafodd ei gludo'n ôl i Brydain i gael triniaeth ond bu farw yn Ysbyty Treforys, Abertawe, wythnos yn ddiweddarach.

Mae'r achos yn parhau.



HEFYD
Antigua: Disgrifiadau manwl
06 Meh 11 |  Newyddion
Priodferch: 'Ymladd am ei bywyd'
03 Meh 11 |  Newyddion
Llys: Cwpl yn "ffrindiau mynwesol"
03 Meh 11 |  Newyddion
Antigua: 'Dim clo ar y glwyd'
02 Meh 11 |  Newyddion
Mis mÍl: Tystiolaeth parafeddyg
02 Meh 11 |  Newyddion
Mis mÍl: Achos llys yn dechrau
01 Meh 11 |  Newyddion


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific