British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mercher, 8 Mehefin 2011, 17:01 GMT 18:01 UK
I'w derbyn i Orsedd y Beirdd 2011

Mae nifer o Gymry yn cael eu hurddo i Orsedd y Beirdd eleni yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam a'r Fro.

Dyma fanylion y rhai fydd yn cael eu derbyn er anrhydedd.


I'w hurddo fore Llun Awst 1

Urdd Derwydd Er Anrhydedd

Tudur Hallam, Moelgastell - Enillydd Cadair Eisteddfod Genedlaethol Blaenau Gwent a Blaenau'r Cymoedd 2010

Glenys Roberts, Llantrisant - Enillydd Coron Eisteddfod Genedlaethol Blaenau Gwent a Blaenau'r Cymoedd 2010

Grace Roberts Y Felinheli - Enillydd Gwobr Goffa Daniel Owen 2010

Yr Athro Gareth Roberts, Bangor - Enillydd Y Fedal Wyddoniaeth a Thechnoleg 2010

Richard Davies, Cwm, Glyn Ebwy - Cadeirydd Pwyllgor Gwaith Eisteddfod Genedlaethol Blaenau Gwent a Blaenau'r Cymoedd 2010

Leah Owen, Prion, Dinbych - Enillydd Medal Goffa Syr TH Parry-Williams 2010

Rhys Jones, Prestatyn (Rhys) - Yn cael ei dderbyn i Urdd Derwydd Er Anrhydedd ar gyfrif ei wasanaeth maith ac arbennig i'r Orsedd a'r Eisteddfod


Urdd Ofydd Er Anrhydedd

Catrin Angharad Roberts, Llanbedrgoch - Enillydd Gwobr Goffa Lady Herbert Lewis Eisteddfod Genedlaethol Meirion a'r Cyffiniau 2009

Catrin Haf Jones, Llanarth - Enillydd Coron Eisteddfod yr Urdd 2010

Huw Euron, Caerffili - Enillydd Gwobr David Ellis 2010

Dyfed Cynan, Caerdydd - Enillydd Gwobr Richard Burton 2010

Julia Hawkins, Crughywel - Enillydd Dysgwr y Flwyddyn 2010

Madison Tazu, Synod Inn - Enillydd Dysgwr y Flwyddyn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd a'r Cylch 2008

Catrin Aur, Castell Newydd Emlyn - Enillydd Ysgoloriaeth Towyn Roberts, Eisteddfod Genedlaethol Meirion a'r Cyffiniau 2009


I'w hurdd fore Gwener Awst 5

URDD DERWYDD ER ANRHYDEDD ( Y Wisg Wen)

Ann Beynon

Cyfarwyddwraig BT yng Nghymru yw Ann Beynon, sy'n byw yn Llandaf, Caerdydd. Derbyniodd ei haddysg yn Ysgol Uwchradd Dyffryn Nantlle Penygroes ac wedi hynny ym Mhrifysgol Bangor. Mae'n adnabyddus yn y sector fusnes yng Nghymru, gan ddal swyddi blaenllaw gyda S4C, Yr Academi Gymreig ac yn Gyfarwyddwr Datblygu Busnes Corfforaeth Datblygu Bae Caerdydd. Derbyniodd OBE yn 2008 am ei chyfraniad i fusnes yng Nghymru. Bu'n aelod o Fwrdd yr Iaith Gymraeg rhwng 1996 a 2000.

Hedd Bleddyn

Daw o Lanbrynmair. Gwnaeth gyfraniad arbennig wrth hyrwyddo'r Gymraeg ac addysg cyfrwng Cymraeg tra'n gynghorydd sirol a Chadeirydd Pwyllgor Addysg Powys. Mae'n aelod o dîm Ymryson y Beirdd Bro Ddyfi ac yn enwog am ei limrigau ffraeth. Ar hyn o bryd, ef yw Derwydd Gweinyddol Gorsedd Talaith a Chadair Powys. Gwasanaethodd ei fro dros gyfnod maith gan gefnogi'r 'pethe' ymhell ac agos.

Gillian Clarke

Daw'n wreiddiol o Gaerdydd, ac erbyn hyn mae'n byw yn Nhalgarreg, Llandysul. Hi yw Bardd Cenedlaethol Cymru 2008-2011 ac enillydd Medal Aur y Frenhines am farddoniaeth eleni. Mae'n cael ei chydnabod fel un o feirdd amlycaf yr ynysoedd hyn a bu'n darllen ei cherddi ac yn darlithio ar hyd a lled Ewrop a'r Unol Daleithiau. Hi oedd un o gyd-sefydlwyr y Ganolfan Genedlaethol yn Nhŷ Newydd.

Rhys Dafis

Yn wreiddiol o Lansannan mae bellach wedi ymgartrefu yn y de-ddwyrain. Cyfrannodd yn helaeth i ddiwylliant yr ardaloedd lle bu'n byw, gan gynnwys ardaloedd de-ddwyrain Cymru a Cheredigion. Am flynyddoedd lawer, bu'n cynnal dosbarth 'Nyddu'r Cynganeddion' yng Ngwaelod y Garth a roddodd hwb i yrfa greadigol nifer o bobl a ddaeth yn amlwg yn y byd llenyddol. Bu'n aelod o dîm Ymryson y Beirdd Morgannwg ac mae wedi cyhoeddi nifer fawr o gerddi. Mae'n is-gadeirydd Clwb Mynydda Cymru eleni.

Margaret Daniel

Mae eisteddfota a'r 'Pethe' ym mêr ei hesgyrn ers ei phlentyndod. Mae'n arweinydd Côr Pensiynwyr Aberteifi a'r cylch a Chôr Merched Bro Nest, corau a fu'n llwyddiannus iawn yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Bu'n hynod o weithgar wrth hyfforddi plant a phobl ifanc ar gyfer cystadlu mewn Eisteddfodau, mae'n feirniad o fri ac yn ffigwr hollol allweddol ym myd cerddoriaeth. Mae'i chyfraniad i gerddoriaeth Cymru yn haeddu anrhydedd yr Orsedd.

Bilo Davies

Daw'n wreiddiol o Gwm Gors ond mae'n byw yn Wrecsam ers blynyddoedd lawer. Yn beiriannydd sifil wrth ei alwedigaeth, ef oedd Cadeirydd Pwyllgor Safle Eisteddfod Wrecsam 1977, a mawr fu'i gymwynas i'r Eisteddfod Genedlaethol am flynyddoedd wedi hynny, wrth i'r pwyllgor bwyso'n drwm ar ei arbenigedd. Roedd yn un o aelodau gwreiddiol y Pwyllgor Technegol Cenedlaethol a bu'n ffyddlon i'w gyfarfodydd ar hyd y blynyddoedd nes iddo ymddeol yn ddiweddar.

Lyn Ebenezer

O Bontrhydfendigaid y daw'r awdur a golygydd tua thrigain o gyfrolau. Yn newyddiadurwr wrth ei alwedigaeth, mae ganddo golofn wythnosol yn Y Cymro a phob yn ail wythnos yn y Cambrian News. Gwnaeth gymwynas fawr â'i fro enedigol yn ddiweddar wrth gyhoeddi cyfrol swmpus Rhwng Mynydd a Mawnog, sef llyfr o luniau ar hanes Pontrhydfendigaid a'r cylch. Mae'n weithgar yn ei fro, yn bregethwr lleyg ac yn ysgrifennydd y clwb pêl droed lleol.

Twm Elias

O Glynnog y daw'n wreiddiol ac ac ar ôl graddio mewn llysieueg amaethyddol o Brifysgol Bangor dilynodd gwrs ymchwil yno ac yn Aberystwyth. Ers 1979 bu'n ddarlithydd a threfnydd cyrsiau ym Mhlas Tan y Bwlch, Maentwrog. Ef oedd ysgrifennydd cyntaf Cymdeithas Edward Llwyd ac mae bellach yn Gadeirydd ei Phanel Enwau a Gweithgor y wefan amgylcheddol. Mae'n awdur nifer o lyfrau ac yn wyneb a llais cyfarwydd ar y cyfryngau.

Eirlys Pritchard Jones

Un sydd wedi arloesi ym myd addysg cyfrwng Cymraeg yw Eirlys Pritchard Jones Llanbedr y Fro, Bro Morgannwg. Bu'n bennaeth Ysgol Gyfun Cymer Y Rhondda - braint bersonol iddi hi fel merch o Gwm Rhondda. Cyfrannodd lawer i gyrff addysgiadol cenedlaethol fel Adran Addysg y Llywodraeth, ACAC, Elwa, Estyn a Bwrdd yr Iaith Gymraeg. Bu'n hynod weithgar hefyd ym myd chwaraeon a'r ddrama.

Joyce Jones

Gwraig sy'n gweithio'n ddiflino i feithrin diddordeb cyfoes mewn brodwaith yw Joyce Jones o Gwaun Ganol, Cricieth. Dros y blynyddoedd, mae brodwaith Joyce Jones wedi cael ei arddangos mewn canolfannau ym mhob rhan o'r wlad a thu hwnt. Yn 2007 fe'i dewiswyd i gynllunio gwisg newydd i'r Archdderwydd a than ei harolygaeth, rhoddwyd cyfle i hanner cant o aelodau'r Gymdeithas Brodwaith, frodio rhannau o'r wisg.

Penri Jones

Mae ei gyfraniad gwirfoddol i ddiwylliant ardal Penllyn yn amlochrog ac amhrisiadwy. Bu'n bennaeth Ysgol Sarnau, Ysgol y Parc ac Ysgol Bro Tegid cyn ymddeol. Bu'n aelod amlwg o Gwmni Drama'r Parc ac yn gefnogol i bob achos da a sefydliad diwylliannol ei fro. Bu'n ymroddedig i'r Urdd drwy'r blynyddoedd, fel arweinydd cangen ac arweinydd Eisteddfodau Cylch a Rhanbarth. Mae'n aelod o Gôr Godre'r Aran ers dros ddeugain mlynedd ac wedi arwain cannoedd o gyngherddau'r côr, yn ogystal â chyfieithu nifer fawr o ganeuon ar eu cyfer.

Peredur Lynch

Yn frodor o Garrog, Meirionydd mae bellach yn Athro yn Adran y Gymraeg, Prifysgol Bangor. Cyn hynny, bu'n Gynorthwydd Ymchwil ac yna yn Gymrawd Ymchwil yng Nghanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru Aberystwyth. Ei briod faes ymchwil oedd barddoniaeth Gymraeg yr Oesoedd Canol a chyhoeddodd swmp o'i waith yn y maes ar ffurf papurau ac erthyglau. Bu'n gydolygydd y gyfrol Gwyddionadur Cymru yr Academi Gymreig. Mae'n aelod o nifer o gynghorau a phwyllgorau gan gynnwys Cyngor Celfyddydau Cymru, Llenyddiaeth Cymru a'r Bwrdd Gwybodau Celtaidd.

Nic Parry

Yn wreiddiol o Helygain, Sir y Fflint mae'n wyneb cyfarwydd iawn i Eisteddfodwyr fel arweinydd llwyfan ers nifer o flynyddoedd. Yn dilyn gyrfa fel cyfreithiwr am bron i ddeng mlynedd ar hugain yn Yr Wyddgrug, mae'n farnwr llawn amser ar dalaith gogledd Cymru erbyn hyn ac yn uchel ei barch. Bydd llawer hefyd yn adnabod ei lais fel sylwebydd cyson ar gemau pêl droed ar Radio Cymru ac S4C, ac mae wedi cyfrannu llawer i ddiwylliant ei fro.

URDD OFYDD ER ANRHYDEDD ( Y Wisg Werdd)

Enid Wyn Baines

O Fynytho yn wreiddiol bu'n ymddiddori ym myd llên a diwylliant ers pan yn ferch ifanc, ac enillodd Goron Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd ym 1962. Cyfrannodd lawer i ddiwylliant ei bro ac i ardal Dyffryn Banw ym Mhowys tra roedd y teulu'n byw yno. Mae'n aelod blaengar o Fwrdd Rheoli Canolfan Dreftadaeth Cae'r Gors ac yn aelod o dîm Glannau Llyfni ar Dalwrn y Beirdd.

Bryn Davies

Un sy'n cyfrannu llawer i ddiwylliant Canolbarth Cymru yw Bryn Davies Llanwnog. Bu'n brifathro Ysgol Gynradd Llanidloes am flynyddoedd lawer, gan feithrin Cymreictod ei ddisgyblion drwy gystadlu yn Eisteddfodau'r Urdd a'r ?yl Gerdd Dant. Bu'n swyddog gyda'r Asiantaeth Sgiliau Sylfaenol ac yn flaenllaw wrth sicrhau deunyddiau gwerthfawr yn y Gymraeg. Am dros ugain mlynedd bu'n arweinydd Côr Cymysg Llanwnog ac yn un o gyfarwyddwyr Gŵyl Gerdd Gregynog.

Dai Rees Davies

Dyma enw cyfarwydd i garedigion cerdd dafod. Enillodd nifer o gadeiriau eisteddfodau lleol a thaleithiol ynghyd â gwobrau yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Mae'n aelod o dîm Talwrn y Beirdd Ffostrasol a thîm Ymryson y Beirdd Ceredigion. Mae hefyd wedi cyfrannu llawer i ddiwylliant ei fro, trwy'r eisteddfod leol a phapur bro 'Y Gambo'. Cyhoeddodd gyfrol o farddoniaeth, Dwys a Digri, yn 2007.

Falmai Puw Davies

Ganwyd a magwyd Falmai Puw Davies ym Mhenfforddlas wrth odre Pumlumon. Dros y blynyddoedd datblygodd ei dawn i lefaru gan ennill mewn eisteddfodau bach a mawr. Bu'n athrawes a gorffennodd ei gyrfa fel athrawes bro ym Mhowys. Erbyn hyn, mae'n diwtor Cymraeg i Oedolion ac yn feirniad llefaru rheolaidd. Falmai oedd y ferch gyntaf i lywyddu Cymanfa Bedyddwyr Caerfyrddin a Cheredigion.

Idris Davies

Brodor o Ddyffryn Ceiriog sydd wedi bod yn arweinydd eisteddfodau a chyngherddau am flynyddoedd, ac mae'n un o sylfaenwyr Eisteddfod Glyn Ceiriog. Mae'n un o hoelion wyth Cymrodoriaeth Talaith a Chadair Powys ac ef yw ei Llywydd ar hyn o bryd. Mae'n gynghorydd cymunedol ac yn gadeirydd Pwyllgor Neuadd Goffa Ceiriog.

Philip Davies

Brodor o Landyfaelog, Sir Gaerfyrddin sydd ers blynyddoedd bellach, wedi ymgartrefu yn Scotch Plains, New Jersey, Yr Unol Daleithiau. Sicrhaodd ef a'i briod Meril, mai Cymraeg fyddai iaith yr aelwyd, gan lwyddo i fagu tri o blant i siarad yr iaith yn rhugl. Mae'n un o hoelion wyth Cymry America ac ef oedd Arweinydd y Cymry Tramor yn Eisteddfod Genedlaethol Abertawe a'r Cylch yn 2006.

Neville Evans

Adnabyddir Neville Evans Treforgan Caerdydd fel un a gyfrannodd lawer i'r byd gwyddonol yng Nghymru. Graddiodd mewn Ffiseg o Brifysgol Abertawe a bu'n ddarlithydd yn Athrofa Gwyddoniaeth a Thechnoleg Cymru. Bu'n Arolygydd ei Mawrhydi, gan arbenigo mewn Ffiseg a Gwyddoniaeth o 1969 a 1998. Ei brif nod yw hyrwyddo gwyddoniaeth drwy gyfrwng y Gymraeg. Ysgrifennodd lyfrau gwyddoniaeth ar gyfer ysgolion ynghyd â nifer o ddeunyddiau addysgol eraill.

Non Eleri Evans

Ganwyd Non Eleri Evans yn Y Fforest ger Pontarddulais ond mae hi bellach yn byw ym Mhentyrch, Caerdydd. Rhagorodd mewn pedwar maes gwahanol - Rygbi, Jiwdo, Wreslo a Chodi Pwysau, gan ennill ar lefel ryngwladol ym mhob un ohonynt. Enillodd 87 o gapiau rygbi dros ei gwlad, gan sgorio 64 o geisiau. Cyhoeddodd hunangofiant, Non yn Erbyn y Ffactore, y llynedd. Bu hefyd yn amlwg ar y cyfryngau Cymraeg.

Arwel Gwynn Jones

Daw Arwel Gwynn Jones, sy'n gyn-bennaeth Ysgol Bodhyfryd Wrecsam, o Rosllannerchrugog. Bu'n hynod weithgar gyda'r Mudiad Meithrin dros y blynyddoedd ac mae'n gefnogwr brwd i weithgareddau yn ei gymdeithas leol. Mae'n Gadeirydd Côr Meibion Orffiws y Rhos ac ef oedd Cadeirydd Gŵyl Cerdd Dant Rhosllannerchrugog yn 2006.

Evie Jones

Yn un o Lannerch-y-medd caiff ei anrhydeddu am ei gyfraniad i fywyd diwylliannol ei gymuned leol. Mae'n awdurdod ar unawdwyr ac unawdau Cymraeg ac yn gasglwr unawdau o fri. Bu'n Impresario Cymanfa Capel Ifan Llannerch-y-medd am chwarter canrif gan ddod â phrif arweinyddion a chantorion Cymru i ddiddanu'i gyd-werinwyr. Yn sgîl hynny, cododd filoedd o bunnoedd at elusennau ac achosion da.

Iona Jones

Nyrs a bydwraig sydd hefyd wedi cyfrannu i ddiwylliant ei hardal. Ym 1989, fe'i penodwyd yn bennaeth Bydwragedd ardal Caernarfon a'r cylch a bu'n aelod o Fwrdd Golygyddol Coleg Brenhinol y Bydwragedd. Bu hefyd yn gweithio gydag Awdurdod Iechyd Betsi Cadwaladr, er mwyn gwella amgylchiadau cleifion cancr. Mae'n weithgar ar lefel gymunedol fel Llywydd Cymdeithas Undebol y pentref a Llywydd Pwyllgor Eisteddfod Gadeiriol Bontnewydd.

Vernon Maher

Brodor o Drefach Felindre. Mae'n adnabyddus fel arlunydd dawnus ac aelod o'r ddeuawd boblogaidd 'Vernon a Gwynfor', gan recordio nifer o recordiau llwyddiannus, rhaglenni radio a theledu, ynghyd â channoedd o gyngherddau ar hyd a lled Cymru. Mae'n eisteddfodwr o fri ac yn Gymro i'r carn.

Frank Olding

Daw o'r Fenni, Sir Fynwy ac mae o wedi cyfrannu llawer at ddefnydd a pharhad y Gymraeg mewn amryw feysydd yn ardal hen sir Gwent. Bu'n weithiwr brwd dros yr Eisteddfod pan ddaeth i'w ardal y llynedd, a'i gymorth a'i gefnogaeth barod yn hwb gwirioneddol i waith y Brifwyl. Mae'n fardd ac yn feirniad a chyhoeddodd gerddi ac erthyglau yn Barddas, Taliesin a'r Faner. Yn 2010 cyhoeddodd y gyfrol Llên Gwerin Blaenau Gwent.

Nigel Owens

Daw o Fynyddcerrig, ac mae'n un o ddyfarnwyr rygbi gorau'r byd, sydd wedi ennill cydnabyddiaeth ryngwladol wrth ddyfarnu mewn gwledydd di-rif, gan ddefnyddio'r Gymraeg bob cyfle mae'n ei gael. Mae hefyd yn ymddangos yn rheolaidd ar bob math o raglenni adloniant ar S4C ac er mor brysur ydyw yn ei waith, mae'n barod iawn i gymryd rhan mewn nosweithiau i godi arian tuag at achosion da.

Margaret Rhys

Mae Margaret Rhys, Dinas Cross, Sir Benfro, yn gyfeilydd o fri. Dros y blynyddoedd, bu'n gyfeilydd i gorau Abergwaun, Newyddion Da, Ar Ôl Tri, Bois y Frenni a Pharti'r Triban. Bu hefyd yn gyfeilydd mewn eisteddfodau di-rif, yn organydd capel a chymanfaoedd ac yn gyfeilydd i lu o offerynwyr ac unigolion. Fel cyfeilydd Côr Aelwyd Crymych, bu'n llwyddiannus ar lefel genedlaethol a theithio gyda'r côr hwn i nifer o wledydd.

Elwyn Roberts

O ardal Coedllai, Sir Fflint y daw yn wreiddiol. Bu'n Bennaeth Ysgol Gynradd Bryn Gwalia Yr Wyddgrug ac wedi hynny'n Bennaeth Ysgol Gynradd Glanrafon am ugain mlynedd olaf ei yrfa. Bu'n weithgar drwy'r blynyddoedd gan wasanaethu er budd yr Eisteddfod Genedlaethol, yr Urdd a'r Ŵyl Gerdd Dant.

Elizabeth Snowden

Un a fu'n fawr ei chymwynasau am flynyddoedd lawer i'r Eisteddfod Genedlaethol. Mae'n aelod o Fwrdd Rheoli Cymdeithas Tai Clwyd, Cist Gymunedol Clwyd, yn drefnydd y tîm sy'n gyfrifol am edrych ar ôl bar coffi Ysbyty Gymunedol Yr Wyddgrug, lle mae'n byw, ac yn swyddog cyllid Cyngor Tref Caerwys. Bu'n gwirfoddoli yn y swyddfa docynnau ar Faes yr Eisteddfod am ddwy flynedd ar hugain.

Delma Thomas

Mae hi wedi cyfrannu llawer i fywyd diwylliannol Canolbarth Cymru. Mae'n un o hoelion wyth ei chymdeithas, yn trefnu digwyddiadau sy'n cyfoethogi bywyd Cymraeg y Canolbarth. Cyfrannodd lawer i fudiad Yr Urdd, yn sirol a chenedlaethol. Mae'n hynod o weithgar gyda phapur bro Seren Hafren, yn un o gyfarwyddwyr Menter Maldwyn ac yn arwain cynlluniau ar hyn o bryd i sefydlu 'Diwrnod Ceiriog' fel dathliad blynyddol.

Emyr Wyn Thomas

Wyneb cyfarwydd i eisteddfodwyr sy'n byw yn Y Tymbl Uchaf, Llanelli. Bu'n gwasanaethu'r Eisteddfod Genedlaethol fel stiward ers deugain mlynedd. Mae'n cynnal a rhedeg dosbarthiadau Cymraeg i Oedolion, yn sylfaenydd papur bro Y Garthen ac yn aelod o Gyngor Bro Gorslas. Bu'n Llywydd Cenedlaethol UCAC ac yn drefnydd de Cymru o'r Ŵyl Ban Geltaidd ers 2002.




NEWYDDION

POBOL Y BRIFWYL

LLUNIAU

150 O DDATHLU

ARCHIF NEWYDDION
SAIN A FIDEO
GWEFANNAU



Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific