British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mercher, 8 Mehefin 2011, 17:25 GMT 18:25 UK
Galw am fwy o arian i Gymru

Carwyn Jones, Alex Salmond a Peter Robinson
Roedd Carwyn Jones, Alex Salmond a Peter Robinson yn cyfarfod David Cameron ddydd Mercher

Mae arweinwyr pedair gwlad y Deyrnas Gyfunol wedi cyfarfod.

Yn ôl y Prif Weinidog, Carwyn Jones, fe wnaeth fanteisio ar y cyfle i drafod tan-gyllido Cymru gyda Phrif Weinidog Prydain, David Cameron, yn y cyfarfod ddydd Mercher.

Roedd y ddau yn cyfarfod gydag Alex Salmond o'r Alban a Peter Robinson o Ogledd Iwerddon yn Llundain, cyfarfod Cydbwyllgor y Gweinidogion.

Dyma'r tro cyntaf i arweinwyr gwleidyddol y pedair gwlad gyfarfod ers yr etholiad.

Ond roedd tri arweinydd y gwledydd datganoledig wedi cyfarfod yr wythnos diwethaf yn Yr Alban.

Bryd hynny, galwodd Mr Salmond Mr Robinson a Mr Jones ar Lywodraeth Prydain i ymuno â nhw mewn "agenda o flaengarwch".

'Adeiladol'

Yn ôl Mr Jones, dywedodd iddo bwysleisio wrth Mr Cameron ddydd Mercher na fyddai Cymru'n derbyn cael ei than-gyllido.

Wedi Adroddiad Holtham yn 2009 oedd yn dweud bod Cymru ar ei cholled o £300 miliwn y flwyddyn, mae gwleidyddion yn y Cynulliad wedi bod yn galw am newid y fformiwla o gyllido Cymru.

"Allwn ni ddim caniatáu i Gymru barhau i gael ei hariannu'n annheg a rhaid i ddiwygio beidio â llithro oddi ar yr agenda," meddai Mr Jones ar ôl y cyfarfod yn San Steffan.

"Roedd hwn yn gyfarfod adeiladol, ond unwaith yn rhagor fe godais bod Cymru'n cael ei chyllido'n annheg.

"Mae'n angenrheidiol i ni gael ffordd decach o ariannu'n gwasanaethau cyhoeddus ni.

"Wrth i Gymru golli hyd at £300 miliwn y flwyddyn, mae'n hen bryd i roi ystyriaeth i hyn.

"Fe wnes hi'n glir bod y system bresennol ar ei hôl hi a bod angen pecyn ariannu tecach ar Gymru."

Dywedodd ei fod yn barod i gyd-weithio â'r Llywodraeth yn San Steffan ond nad oedd ei Lywodraeth yn barod i dderbyn tan-gyllido Cymru ddim rhagor.



HEFYD
'Parch' ar yr agenda yn Llundain
08 Meh 11 |  Newyddion
Hyder y Frenhines yn y Cynulliad
07 Meh 11 |  Newyddion
Arweinwyr yn erbyn toriadau
07 Hyd 10 |  Newyddion
Ysgrifennydd Cymru: Y cam nesa?
10 Maw 11 |  Newyddion
'Angen parch,' medd Cameron
17 Mai 10 |  Newyddion
'Heb frwydro i gael mwy o gyllid'
04 Ebr 11 |  Newyddion
Comisiwn: Holtham wrth y llyw
08 Gorff 08 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific