British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mercher, 8 Mehefin 2011, 14:41 GMT 15:41 UK
Comisiynydd Iaith yn yr Hydref

Siambr Y Senedd

Nod y llywodraeth yw penodi Comisiynydd Iaith yn yr hydref.

Daw'r cyhoeddiad yn dilyn pasio'r mesur iaith yn y Cynulliad fis Rhagfyr diwethaf.

Mewn datganiad ysgrifenedig, dywedodd y Gweinidog Addysg sydd â gofal dros yr iaith, Leighton Andrews, ei fod yn bwriadu hysbysebu am y swydd fis Gorffennaf gyda'r gobaith o benodi yn yr hydref.

"Rwy'n awyddus i benodi'r Comisiynydd cyn gynted â phosib fel ei fod yn cael cyfrannu at y gwaith pwysig sydd i'w wneud - gan gynnwys yr angen i sicrhau ein bod yn symud yn gyflym o'r drefn bresennol o gynlluniau iaith o dan Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993 i'r drefn newydd o safonau iaith a gyflwynir o dan y Mesur," meddai yn y datganiad.

"Bydd penodiad cynnar hefyd yn caniatáu i'r Comisiynydd gael mewnbwn i'r broses o sefydlu ei swyddfa - mater sydd eisoes yn destun paratoadau yn sgil trafodaethau rhwng Llywodraeth Cymru a Bwrdd yr Iaith Gymraeg."

Bydd y Cynulliad yn trafod y rheoliadau ynghlwm â phenodi'r Comisiynydd yn y Siambr ar Fehefin 28.



HEFYD
Pen y daith i'r Mesur Iaith
07 Rhag 10 |  Newyddion
'Ai hwn yw pen draw'r daith?'
07 Rhag 10 |  Newyddion
Iaith: 'Dim digon annibynnol'
17 Mai 10 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific