British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mercher, 8 Mehefin 2011, 07:55 GMT 08:55 UK
Croesfan: Rhybuddio gyrwyr

tren
Ymgyrch i rybuddio gyrwyr o beryglon croesfannau

Cafodd ymgyrch ei lansio ym Mhorthmadog Gwynedd ddydd Mercher i godi ymwybyddiaeth o beryglon ar groesfannau ar y rheilffyrdd.

Mae 22 o bobl wedi eu lladd mewn cyfnod o naw mlynedd ar groesfannau preifat ledled Prydain.

Fel rhan o'r ymgyrch bydd y trefnwyr, Sefydliad Diogelwch ac Iechyd Galwedigaethol, yn ail greu damwain wrth groesfan Minffordd wrth osod trên yn erbyn car.

Dywed y sefydliad fod yna dros 200 o groesfannau preifat yng ngogledd Cymru.

Bydd gwybodaeth yn cael ei rhoi i fusnesau lleol sy'n cyflogi gweithwyr a allai fod yn defnyddio croesfannau.

Llywio

Ddydd Mercher hefyd bydd cwmni Network Rail yn cyhoeddi meddalwedd newydd ar gyfer gwella diogelwch groesfannau.

Bydd modd lawrlwytho'r meddalwedd i systemau llywio lloeren.

Mae dros 130 o groesfannau yng Nghymru wedi eu nodi.

Bydd sŵn chwiban trên i'w glywed ar y sat nav pan fydd car yn agosáu at groesfan.

Cafodd y feddalwedd ei datblygu ar y cyd gan Network Rail a chwmni llywio lloeren Garmin.



HEFYD
Croesfan: Mesurau newydd
24 Maw 09 |  Newyddion
Gyrwyr yn peryglu bywydau
03 Tach 08 |  Newyddion
Cau croesfannau ym Mhowys
21 Ebr 05 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific