British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mercher, 8 Mehefin 2011, 06:49 GMT 07:49 UK
Dymchwel Pafiliwn wedi ei atal

Pafiliwn Corwen
Ni fydd y Pafiliwn yn cael ei ddymchwel am y tro

Mae ymgyrchwyr wedi llwyddo unwaith eto i atal dymchwel Pafiliwn Corwen yn Sir Ddinbych.

Ym mis Ebrill, llwyddodd yr ymgyrchwyr i gael gwaharddeb llys i atal y dymchwel, ond cafodd hwnnw ei wyrdroi gan lys ddydd Llun.

Bellach mae'r ymgyrchwyr wedi cael gwaharddeb arall fydd yn rhai tan Orffennaf 1 iddyn nhw baratoi adroddiad fyddai'n golygu gallu ail agor y pafiliwn enwog.

Cafodd y Pafiliwn ei gau ym mis Mawrth y llynedd wedi i asbestos gael ei ddarganfod yno, a dywedodd Cyngor Sir Ddinbych y byddai'n costio rhwng £2 miliwn a £3 miliwn i godi un arall yn ei le.

Ond dywed un o'r ymgyrchwyr - yr adeiladwr Esmor Davies - fod y grŵp yn credu y gellid gwneud yr adeilad yn ddiogel am gyn lleied a £50,000, ac y gellid codi un newydd am £500,000.

Dim arian

Mewn datganiad, dywedodd Cyngor Sir Ddinbych eu bod wedi cytuno i beidio dymchwel y pafiliwn tan y bydd y mater wedi cwblhau ei daith drwy'r llysoedd.

Ond dywedodd Jamie Groves, pennaeth hamdden, llyfrgelloedd a datblygu cymunedol yr awdurdod:

"Mae ein safbwynt cyn belled ag y mae'r pafiliwn yn y cwestiwn yr un fath.

"Yn ystod cyfarfodydd yng Nghorwen, rydym wedi pwysleisio nad oes gan y cyngor yr arian i adeiladu pafiliwn newydd, ond ei fod yn barod i drosglwyddo'r tir i'r gymuned, ac fe fydd gofyn iddyn nhw wedyn sefydlu ymddiriedolaeth elusennol."

Dywedodd Mr Davies fod y grŵp ymgyrchu hyd yma wedi codi rhwng £60,000 a £70,000 tuag at gost adnewyddu ac ailagor y Pafiliwn.

Mae gan yr ymgyrchwyr tan Orffennaf 1 i gomisiynu syrfëwr i baratoi adroddiad annibynnol am y costau o ailagor y Pafiliwn.

Bydd gwrandawiad llys pellach yn gynnar ym mis Gorffennaf.



HEFYD
Llys yn gwyrdroi gwaharddiad
06 Meh 11 |  Newyddion
Pafiliwn: Cyngor yn ystyried apelio
02 Ebr 11 |  Newyddion
Dymchwel Pafiliwn Corwen
25 Maw 11 |  Newyddion
Pafiliwn: Dyfodol newydd?
03 Awst 10 |  Newyddion
Cau Pafiliwn Corwen
03 Maw 10 |  Newyddion


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific