British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mercher, 8 Mehefin 2011, 12:40 GMT 13:40 UK
'Siop un stop' ar gyfer y Gymraeg

Prifysgol Cymru Bangor
Cafodd y wefan ei lansio'n swyddogol gan Is-Ganghellor Prifysgol Bangor

Mae 'siop-un-stop' ar gyfer y Gymraeg wedi ei lansio ar wefan Prifysgol Bangor ddydd Mercher, gyda'r bwriad o gynorthwyo staff a myfyrwyr i ddefnyddio'r Gymraeg yn eu gwaith.

Mae Cymorth Cymraeg yn cynnig adnoddau ysgrifennu a siarad, yn cynnwys templedi ar gyfer negeseuon e-bost a ffeiliau sain i helpu gydag ynganu'r Gymraeg.

Bwriad y tudalennau newydd yw cynnig cefnogaeth ymarferol i staff, a rhoi hyder iddynt roi'r 'iaith ar waith'.

Cafodd y wefan ei lansio'n swyddogol gan Is-Ganghellor Prifysgol Bangor, yr Athro G. John Hughes.

'Gwerth ar sgiliau'

Dywedodd yr Athro Hughes: "Rwyf yn croesawu'r datblygiad hwn yn fawr. Mae Prifysgol Bangor yn sefydliad sy'n rhoi gwerth ar sgiliau iaith Gymraeg ac sy'n annog staff a myfyrwyr i ddatblygu a chynnal y sgiliau hynny.

"Mae sgiliau Cymraeg fy nghydweithwyr yn hollbwysig o ran galluogi'r sefydliad i weithredu'n ddwyieithog a bydd Cymorth Cymraeg yn adnodd gwerthfawr iddynt yn eu gwaith o ddydd i ddydd.

"Ar lefel bersonol, wrth i mi ddysgu Cymraeg a defnyddio'r iaith fwyfwy yn fy ngwaith, byddaf yn sicr o droi at y wefan am arweiniad a chymorth'.

Cafodd y wefan ei datblygu yng Nghanolfan Bedwyr, canolfan gwasanaethau Cymraeg y Brifysgol.

Dywedodd Dr Llion Jones, Cyfarwyddwr y Ganolfan: "Gyda strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer y Gymraeg yn rhoi pwyslais sylweddol ar hyrwyddo defnydd o'r Gymraeg, rydym yn gobeithio y bydd y datblygiad cyffrous hwn yn gyfraniad ymarferol tuag at gyflawni'r nod hwnnw ym Mhrifysgol Bangor, ac yn cynnig patrwm posib ar gyfer sefydliadau eraill."



HEFYD
Technoleg: Help llaw i gyfieithu
14 Ion 11 |  Newyddion
Rhybudd Bwrdd am gyfieithwyr
08 Tach 10 |  Newyddion
Trosi i ieithoedd y Balcannau
06 Ebr 10 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific