British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 7 Mehefin 2011, 18:00 GMT 19:00 UK
Arestio dyn ar amheuaeth o lofruddio

Angelika Dries-Jenkins
Cafwyd hyd i gorff Angelika Dries-Jenkins ddydd Gwener

Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi arestio dyn lleol 54 oed ar amheuaeth o lofruddio Angelika Dries-Jenkins.

Mae cwest wedi cael ei agor a'i ohirio i farwolaeth y fenyw 66 oed, a gafodd ei darganfod yn farw yn ei chartre' yn Arberth.

Cafodd y cwest ei ohirio am gyfnod amhenodol, tra bod yr heddlu yn parhau â'u hymchwiliadau.

Yn ôl canlyniadau post mortem roedd Angelika Dries-Jenkins wedi cael anafiadau difrifol i'w phen.

Dywed yr heddlu nad oedd yna unrhyw arwydd o ymyrraeth rywiol.

Maes parcio St Thomas Green, Hwlffordd
Cafodd car Ms Dries-Jenkins ei ddarganfod mewn maes parcio yn Hwlffordd ddydd Sadwrn

Cafwyd hyd i Ms Dries-Jenkins yn ardal Providence Hill ar ddydd Gwener Mehefin 3.

Mae ymchwiliad yr heddlu wedi canolbwyntio ar gar Ms Dries-Jenkins, a gafodd ei gymryd o'i chartre'.

Cafwyd hyd i'r Skoda Fabia lliw aur, rhif cofrestru GP05 LNY, ym maes parcio St Thomas Green, Hwlffordd, am 1pm ddydd Sadwrn.

Mae'r heddlu am wybod sut i'r car gyrraedd Hwlffordd.

"Rwy'n apelio ar i bobl fy helpu gan fy mod angen gwybod pwy oedd yn gyrru'r cerbyd a phwy sydd wedi bod yn y cerbyd," meddai'r Ditectif Uwch-arolygydd Pam Kelly.

Ddydd Llun cafwyd apêl uniongyrchol gan ei theulu am wybodaeth ynglŷn â'r llofruddiaeth.

"Rydym yn gofyn i bobl Sir Benfro, a'r gymuned yn Arberth yn benodol, i helpu'r heddlu mewn unrhyw ffordd bosib," meddai'r teulu mewn datganiad

"Ddylai'r sawl sydd wedi lladd ein mam ddim cael lloches na chael eu hamddiffyn ond yn hytrach eu hatal rhag gwneud unrhyw beth fel hyn i berson neu deulu arall fyth eto."

Dywedodd yr heddlu y gallai Ms Dries-Jenkins fod wedi cael ei llofruddio ar unrhyw adeg yr wythnos ddiwetha'.

Dylai unrhyw un sydd â phryderon, neu unrhyw wybodaeth allai helpu'r ymchwiliad, gysylltu â Heddlu Dyfed Powys ar 101.



HEFYD
Llofruddiaeth: Anafiadau i'r pen
07 Meh 11 |  Newyddion
Teulu'n apelio am wybodaeth
06 Meh 11 |  Newyddion
Arberth: Cyhoeddi enw dynes
05 Meh 11 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific