British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mercher, 8 Mehefin 2011, 15:59 GMT 16:59 UK
Gorsedd y Beirdd yn anrhydeddu Cymry am eu cyfraniad

Nigel Owens
Nigel Owens: Urdd Ofydd

Fe fydd barnwr sydd hefyd yn adnabyddus fel sylwebydd pêl-droed ymhlith 46 o Gymry gaiff eu hurddo i Orsedd Y Beirdd eleni.

Bydd Nic Parry yn ymuno gyda'r dyfarnwr Nigel Owens a'r darlledwr Lyn Ebenezer i gael eu hurddo yn ystod yr Eisteddfod Genedlaethol yn Wrecsam ym mis Awst.

Hefyd yn cael eu hurddo y mae'r bardd Gillian Clarke, Bardd Cenedlaethol Cymru 2008-11, yr athletwraig Non Evans a nifer o bobl llai adnabyddus sydd wedi gwneud cyfraniad yn eu milltir sgwâr.

Un o blant y gogledd ddwyrain yw'r barnwr Nic Parry.

Dywedodd wrth gael ei anrhydeddu bod "cyfraniadau bychan yn adeiladu at gyfanwaith" a bod cael yr anrhydedd yn gydnabyddiaeth o hynny.

"Ges i gymaint o sioc pan gefais i'r anrhydedd," meddai.

Y Gymraeg

"Nai rannu cyfrinach efo chi, fe es i ar Google i wneud yn siŵr mai'r wisg wen yr o'n i wedi ei gael.

"Ond dwi'n hynod o falch, yr anrhydedd mwya y gall eich gwlad ei roi i chi yn fy marn i.

Gobeithio y bydd yn braf ac na fydd angen y wellingtons arna i."
name here

"Dwi'n ei dderbyn ar ran Cymry Yr Wyddgrug, Sir y Fflint, Rhuthun a Sir Ddinbych sydd wedi fy nghefnogi ym mhopeth dwi wedi ei geisio ei wneud."

Fe fydd yn derbyn yr anrhydedd ar y garreg drws mwy neu lai ond "yn fwy na dim o fewn tafliad carreg i'r Cae Ras, lle wnes i fwrw fy mhrentisiaeth darlledu a lle wnes i dreulio oriau o ing a gwefr".

"Mae Wrecsam wedi bod yn bwysig i mi am y rheswm hynny ond i'w gael o yn fy nghymuned leol yn fwy sbesial," ychwanegodd.

Mae'r dyfarnwr Nigel Owens yn lais cyfarwydd ar y cyfryngau Cymraeg ac yn wyneb cyfarwydd ar gaeau rygbi ledled y byd.

Caiff ei ystyried yn un o ddyfarnwyr gorau'r gêm a bydd yn defnyddio'r Gymraeg gyda chwaraewyr a swyddogion eraill bob cyfle.

Mae'n edrych ymlaen at y seremoni a'r wisg newydd a ddaw fel aelod o'r orsedd.

"Dwi'n mynd yn ffed up gwisgo'r cit rygbi, dwi'n ei wisgo bob wythnos.

"Pan fyddai'n mynd i gyfarch cymdeithas neu rywbeth fe fydd pobl yn gofyn i mi wisgo'r crys rygbi.

"Fe fydd yn braf rhoi'r wisg werdd ymlaen a'r wellingtons, er dwi'n gobeithio y bydd yn braf ac na fydd eu hangen nhw arna i."

O'r byd chwaraeon hefyd y daw Non Evans.

Enillodd 87 o gapiau rygbi, ond bu'n cystadlu'n rhyngwladol hefyd ym meysydd jiwdo, reslo a chodi pwysau.

Bydd Eisteddfod Wrecsam a 'r Fro yn dechrau ar Orffennaf 30 tan Awst 5 ar Fferm Bers Isaf, Wrecsam.




NEWYDDION

POBOL Y BRIFWYL

LLUNIAU

150 O DDATHLU

ARCHIF NEWYDDION
SAIN A FIDEO
GWEFANNAU


HEFYD
Eisteddfod yn colli 30,000
12 Mai 11 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific