British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mercher, 8 Mehefin 2011, 06:11 GMT 07:11 UK
Trafferth cerddor i gyrraedd Llangollen

Zeshan Rahab
Bydd Zeshan Rahab yn perfformio ar 6 Gorffennaf

Mae Aelod Seneddol wedi gorfod ymyrryd er mwyn sicrhau bod canwr o Bacistan am gael y cyfle i gystadlu yn Eisteddfod Rhyngwladol Llangollen.

Zeshan Rahab o ogledd orllewin y Punjab fydd y person cyntaf o Bacistan i berfformio yn yr ŵyl, a gynhelir rhwng 4-10 Gorffennaf.

Roedd ei ymddangosiad yn yr ŵyl o dan fygythiad oherwydd trafferthion gydag Asiantaeth Ffiniau Prydain.

Aeth yr AS Stephen Timms ati felly i ysgrifennu i'r awdurdodau o'i wely mewn ysbyty yn Llundain - mae e yno wedi iddo gael ei drywanu gan ferch Fwslemaidd yn swyddfa ei etholaeth yn Nwyrain Llundain ym Mai 2010.

Arwyddocâd

Mi fydd Mr Rahab yn canu ac yn chwarae cerddoriaeth draddodiadol Urdu Ghazal ar ei harmoniwm.

Mae'n gerddoriaeth sydd o arwyddocâd pwysig i Gristnogion Pacistan, ac wedi cael ei chwarae mewn ralïau heddwch gan Gristnogion a Mwslemiaid cymhedrol yn sgîl cynnydd yn y tensiynau rhwng y ddwy gymuned yn ddiweddar.

Dywedodd Mervyn Cousins, prif weithredwr Eisteddfod Llangollen: "Rydym wedi cyffroi am gael Zeshan yn cystadlu yn yr Eisteddfod.

"Mae ei gerddoriaeth wir yn dal hanfod yr ŵyl, a gafodd ei sefydlu i hyrwyddo heddwch rhyngwladol drwy gerddoriaeth a dawns."

Cafodd doniau cerddorol Mr Rahab eu darganfod gan gaplan Anglicanaidd Dubai, lle'r oedd yn gweithio fel llafurwr am gyfnod.

Roedd yn siomedig pan dynnodd yr awdurdodau ei harmoniwm i ddarnau a'i ddifrodi yn Dubai, ond erbyn hyn yn teimlo'n barod i gystadlu.

Dywedodd y cerddor: "Mae'n anrhydedd i fod y person gyntaf o Bacistan i berfformio mewn gŵyl gerddorol ryngwladol mor bwysig.

"Dwi'n falch iawn o allu dod â cherddoriaeth Urdu Ghazal i Brydain ac i Gymru.

"Dwi wir yn edrych ymlaen at berfformio yn Llangollen - rydw i wedi clywed ei fod yn lle prydferth."

Bydd Mr Rahab yn perfformio ar y llwyfan awyr agored ar ddydd Mercher, 6 Gorffennaf.



CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific