Hwn yw'r trydydd papur bro ar gyfer Cymry Cymraeg y Wladfa
|
Mae papur bro newydd wedi cael ei lansio ar gyfer siaradwyr Cymraeg ym Mhatagonia. Hwn yw'r trydydd papur newydd ar gyfer Cymry Cymraeg y Wladfa. Bydd 'Clecs Camwy' yn cael ei gyhoeddi'n fisol, ac yn cynnwys newyddion diweddaraf Dyffryn Camwy, lluniau o wahanol ddigwyddiadau, geirfa Gymraeg a Sbaeneg, ryseitiau, a phosau i blant ac oedolion. Cafodd y papur ei lansio mewn dau ddigwyddiad arbennig ddechrau mis Mehefin.
 |
Dwi'n gobeithio y bydd 'Clecs Camwy' hefyd yn gyfrwng i gynorthwyo ym mharhad y Gymraeg yn y Wladfa
|
Perfformiodd nifer o gerddorion lleol, yn gantorion ac yn offerynwyr, mewn noson yn Salón Cultural Gaiman. Ac yn Neuadd Dewi Sant Trelew y prynhawn canlynol, roedd sgyrsiau difyr gan y llenor Owen Tudur Jones, ac enillydd Ysgoloriaeth Llanymddyfri yn gynharach eleni, Camila Molina, a pherfformwyr lleol. 'Y Drafod' Mae 'Llais yr Andes' wedi bod yn cael ei gyhoeddi yn Esquel a Threvelin ers y 1990au, gyda'r swyddog Menter Patagonia presennol yno, Iwan Madog, yn gyfrifol am ei olygu eleni. Ac mae papur 'Y Drafod' yn parhau i gael ei chynhyrchu ers i Lewis Jones ei gychwyn yn 1891. Bellach mae dan olygyddiaeth Laura Irma Jones, Esyllt Nest Roberts a Rebeca Henry. Lois Dafydd, Swyddog Menter Patagonia yn Nyffryn Camwy, yw golygydd 'Clecs Camwy'. Dywedodd: "Gobeithio fod y papur yn cynnwys rhywbeth sydd at ddant pawb o bob oed, boed yn siaradwyr Cymraeg o'r crud, yn siaradwyr ail iaith, neu yn ddechreuwyr pur. "Mae cnewyllyn cryf o siaradwyr Cymraeg yn bodoli yn Nyffryn Camwy, a'r Andes, a diddordeb cynyddol yn yr iaith. "Mae hyn yn anhygoel ac ystyried fod bron i gant a hanner o flynyddoedd ers i'r Mimosa angori ym Mhorth Madryn. "Felly mae angen sicrhau fod amryw gyfleoedd i bobl allu defnyddio ac ymestyn eu Cymraeg, gyda gwaith yr ysgolion a'r dosbarthiadau Cymraeg eisoes yn amhrisiadwy, yn ogystal â'r amryw weithgareddau cymdeithasol a'r eisteddfodau sy'n cael eu cynnal yma trwy gydol y flwyddyn. "Dwi'n gobeithio y bydd 'Clecs Camwy' hefyd yn gyfrwng i gynorthwyo ym mharhad y Gymraeg yn y Wladfa."
|