British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 7 Mehefin 2011, 16:38 GMT 17:38 UK
Iechyd: 'Newidiadau amhoblogaidd'

Theatr ysbyty
Mae newidiadau ar droed yn y gwasanaeth iechyd.

Mae Comisiwn a grëwyd i oruchwylio newidiadau yn y gwasanaeth iechyd dros y tair blynedd ddiwethaf yn rhybuddio y bydd rhaid i newidiadau amhoblogaidd gael eu gwneud er mwyn ymdopi â'r pwysau cynyddol ar y gwasanaeth iechyd.

Daw'r adroddiad wrth i Lywodraeth San Steffan gyhoeddi newidiadau gwrthgyferbyniol i'r gwasanaeth iechyd yn Lloegr.

Y cyn Weinidog Iechyd Edwina Hart sefydlodd Gomisiwn Bevan er mwyn iddyn nhw gynghori ar y newid i'r drefn bresennol o fyrddau iechyd a rhoi diwedd ar y "farchnad fewnol" honedig ym maes iechyd.

Mae adolygiad gan y Comisiwn yn dweud bod y gwasanaeth iechyd yn parhau i wynebu her o ran lleihau anghydraddoldeb o ran iechyd, cael gwared ar wastraff a gweithio'n well gydag awdurdodau lleol.

Yn ôl yr adroddiad rhaid bod yn barod am y pwysau deublyg o gyllideb dynn a galw cynyddol am wasanaethau iechyd wrth i'r boblogaeth heneiddio - ond mae'n dweud nad oes angen newidiadau pellach i strwythur y gwasanaeth iechyd.

Rhybudd arall yw y "gall y sefyllfa bresennol arwain at ailstrwythuro gwasanaeth heb gynllunio clir neu dynnu gwasanaethau'n ôl, a gostyngiad yn nifer y staff drwy beidio ag adnewyddu cytundebau dros dro, peidio â llenwi swyddi gwag a dileu clinigau. '

Dywed yr adroddiad y dylai gwleidyddion fod yn "cynorthwyo'r cyhoedd i beidio â disgwyl pethau na ellir eu cyflawni."



HEFYD
Rhybudd am doriadau iechyd
25 Mai 11 |  Newyddion
Ysbytai: Gwella'r gwasanaeth brys
07 Ebr 11 |  Newyddion
Pryder am amseroedd aros cleifion
19 Mai 11 |  Newyddion
2m i 'leihau amseroedd aros'
26 Chwef 11 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific