British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mercher, 8 Mehefin 2011, 09:48 GMT 10:48 UK
Doniau cerddorol yng Ngregynog

Cystadleuwyr y Rownd Derfynol, Andrew Reynish, Kevin Yang, Francesca Hargreaves, Gwyn Owen, Tom Blomfield a Charlie Lovell-Jones
Roedd chwech yn cystadlu yn y rownd derfynol

Chwaraewr soddgrwth o Preston yw enillydd pencampwriaeth Cerddor Ifanc Gregynog 2011.

Dyfarnwyd y wobr gyntaf o £1,000 a thlws Peter Garbett-Edwards i Andrew Reynish, 17 oed nos Sadwrn diwethaf yng Ngregynog ger Y Drenewydd.

Dyfarnwyd yr ail wobr o £500 i'r feiolinydd Francesca Hargreaves o Aston-on-Clun, Sir Amwythig.

Charlie Lovell-Jones, sydd hefyd yn feiolinydd ac yn dod o Gaerdydd enillodd y drydedd wobr a siec am £250.

Dim ond deuddeg oed oedd Charlie, y cystadleuydd ieuengaf yn y rownd derfynol ar ôl cyrraedd y rownd honno yn 2010 hefyd.

Pymtheg offerynnwr

Dyfarnwyd tri yn gyfartal i'r pedwerydd safle gyda £100, sef Gwyn Owen, y trympedwr deunaw oed o Fangor, Tom Blomfield, yr oböydd o Sir y Fflint, a Kevin Yang, y pianydd dwy ar bymtheg oed yn wreiddiol o Daiwan, ond bellach yn byw yn Warrington.

Beirniaid y gystadleuaeth oedd Sioned Webb, Richard Lewis a Lara James.

Yn dilyn y gystadleuaeth, dywedodd Richard Lewis: "Wow, dyna i chi gystadleuaeth anhygoel! Rwyf yn canmol pob un ohonoch chi.

"Rwy' wedi bod yn gerddor proffesiynol am bymtheg mlynedd ar hugain, a dyma'r dasg anoddaf i mi ei gwneud erioed."

Yn gynharach yn ystod y dydd roedd pymtheg offerynnwr wedi cystadlu yn y rownd ragbrofol, a'r bwriad oedd dewis chwech ohonynt ar gyfer y cyngerdd min nos.

Dywedodd Gwyn Owen: "Mae wedi bod yn brofiad anhygoel, ac yn fraint i fod yn rhan ohono."

Bydd y rownd derfynol y flwyddyn nesaf yn cael ei chynnal ar 25 Mawrth 2012.



CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific