British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Llun, 6 Mehefin 2011, 13:16 GMT 14:16 UK
Cywion gweilch cynta'r Dyfi er 1604

Cywion Cors Dyfi
Cafodd y cywion eu geni ar Fehefin 5 a 6

Mae cywion Gweilch wedi cael eu geni yn Nyffryn Dyfi am y tro cyntaf ers dros bedair canrif.

Fe gafodd y cyw cyntaf ei eni yng Nghors Dyfi ar Fehefin 5 a'r ail y diwrnod canlynol.

Roedd tad y cywion, Monty, wedi methu denu cymar am y ddwy flynedd ers iddo ymgartrefu mewn nyth 50 troedfedd o uchder yng ngwarchodfa Cors Dyfi, cartref Prosiect Gweilch y Dyfi.

Cyrhaeddodd Monty y warchodfa ar Ebrill 6 eleni a chyrhaeddodd ei gymar dridiau yn ddiweddarach.

Rwy'i wedi gweld dynion mewn oed yn crio heddiw
Emyr Evans

Y rhain yw'r ail bâr o weilch sy'n magu ar hyn o bryd yng Nghymru - mae'r pâr arall yn Aberglaslyn ger Porthmadog eisoes wedi cynhyrchu cywion ers rhai blynyddoedd.

Mae'r nyth yn Ynyshir, Cors Dyfi, ar ben polyn telegraff.

Parau bridio

Mae'r safle'n cael ei reoli gan Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Sir Drefaldwyn.

Dywedodd rheolwr Prosiect Gweilch Dyfi, Emyr Evans bod hwn yn ddigwyddiad pwysig i Gymru.

Monty y Gwalch
Cafodd yr olaf o'r gweilch cynhenid eu difa yn 1916.

"Does dim cofnod o weilch ym magu ar afon Dyfi er 1604 ac rydyn ni wedi bod yn dystion i ddigwyddiad hanesyddol.

"Mae'n rhyfedd i feddwl mai'r tro olaf i gywion gael eu geni yn Nyffryn Dyfi, mai James I oedd brenin Lloegr."

Cafodd poblogaeth y gweilch ym Mhrydain ei ddifa'n llwyr yn 1916.

Yn 1954 fe gafwyd rhaglen i geisio magu'r aderyn unwaith eto.

Erbyn hyn mae tua 200 o barau ym Mhrydain, yn bennaf yn Yr Alban.

Ychwanegodd Mr Evans: "Rwy'i ar ben fy nigon bod gweilch yn magu ar afon Dyfi unwaith eto.

"Rwy'i wedi gweld dynion mewn oed yn crio heddiw."

Mae 15,000 o bobl wedi ymweld â Phrosiect Gweilch Dyfi hyd yn hyn eleni.

Dywedodd Mr Evans: "Mae dros 60 0 wirfoddolwr wedi bod yn gweithio i'r prosiect yn ystod y tair blynedd diwethaf ac mae hon yn wobr ddilys am eu gwaith caled."



CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific