British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Llun, 6 Mehefin 2011, 10:53 GMT 11:53 UK
Cadarnhau Huw Jones fel cadeirydd

Huw Jones
Bu Huw Jones yn Brif Weithredwr y sianel rhwng 1994 a 2005.

Daeth cadarnhad gan Ysgrifennydd Diwylliant y Llywodraeth yn San Steffan fod Huw Jones wedi ei benodi yn gadeirydd S4C.

Bydd y penodiad yn para am bedair blynedd, ac yn dechrau ar Fehefin 8.

Fe ddaw yn dilyn gwrandawiad craffu ar y cyd rhwng Pwyllgor Dethol Diwylliant, Chwaraeon a'r Cyfryngau a'r Pwyllgor Materion Cymreig ar Fai 24.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Diwylliant, Jeremy Hunt: "Mae'n bleser gen i groesawu Huw Jones fel cadeirydd newydd S4C.

"Gydol ei yrfa mae wedi dangos ymroddiad mawr i ddarlledu yn yr iaith Gymraeg, ac fe fydd ei brofiad unigryw a'i ddealltwriaeth o S4C o fudd mawr iddo wrth iddo arwain y sefydliad drwy'r cyfnod pwysig yma yn ei hanes."

Rhwng 1994 a 2005, bu Huw Jones yn Brif Weithredwr S4C, ac yn gadeirydd yr is-gwmni masnachol ac yn gadeirydd SDN - y cwmni oedd yn dal y drwydded deledu digidol.

Yn ffigwr amlwg yng ngherddoriaeth a chyfryngau Cymru ers y 1960au, daeth yn un o sefydlwyr y diwydiant teledu Cymraeg yng ngogledd orllewin Cymru yn yr 80au.

Ar hyn o bryd, mae'n gadeirydd Portmeirion Cyf, yn is-gadeirydd Bwrdd Sgiliau a Chyflogaeth Cymru ac yn aelod o Fwrdd yr Iaith Gymraeg.

Mae'n aelod o gyngor yr RSPB, ac yn is-gadeirydd Canolfan Iaith Nant Gwrtheyrn.

Mae'n Gymrodor y Gymdeithas Deledu Frenhinol, ac yn Gymrodor Er Anrhydedd Prifysgol Cymru, Aberystwyth.



HEFYD
S4C yn 'agored i ymyrraeth wleidyddol'
02 Meh 11 |  Newyddion
ASau yn cymeradwyo Huw Jones
26 Mai 11 |  Newyddion
Dl: 'Rheidrwydd ymarferol'
24 Mai 11 |  Newyddion
S4C: 'Angen adolygiad llawn'
11 Mai 11 |  Newyddion


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific