British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Llun, 6 Mehefin 2011, 10:35 GMT 11:35 UK
Lyn Jones i Gymry Llundain

Lyn Jones
Enillodd Jones bencampwriaeth Magners ddwywaith gyda'r Gweilch

Mae Clwb Rygbi Cymry Llundain wedi prysuro i lenwi'r bwlch wedi ymadawiad eu hyfforddwr Phil Greening drwy benodi cyn hyfforddwr y Gweilch, Lyn Jones.

Mewn datganiad, dywedodd Bwrdd Clwb Cymry Llundain eu bod yn credu mai Jones yw'r dyn i adeiladu ar waith y ddau dymor diwethaf a symud y clwb ymlaen.

"Ei dasg fydd sicrhau dyrchafiad i Uwchgynghrair Aviva, ac mae recriwtio rhywun o broffil a phrofiad Lyn Jones yn arwydd clir o fwriad y clwb," medd y datganiad.

Bu Lyn Jones yn brif hyfforddwr y Gweilch am bum mlynedd - cyfnod a welodd y clwb yn bencampwyr Cynghrair Magners ddwywaith (2005 a 2007), yn ail yng Nghwpan EDF yn 2007 ac yn bencampwyr yn 2008.

Abu Dhabi

Yn ei gyfnod wrth y llyw, daeth mwy o chwaraewyr y Gweilch yn aelodau o dîm Cymru na'r tri rhanbarth arall gyda'i gilydd, a phenllanw hynny oedd gweld 13 o'r Gweilch yn dechrau i dîm Cymru yn erbyn Lloegr yn 2008 - tymor y Gamp Lawn.

Symudodd o'r Gweilch yn 2007/8 i fod yn hyfforddwr olwyr Dreigiau Gwent, ac ers 2009 bu'n gyfarwyddwr rygbi mewn ysgol breifat yn Abu Dhabi, gan sefydlu uned rygbi perfformiad uchel yno.

Fel chwaraewr, bu'n aelod o dimau Castell-nedd a Llanelli, gan ennill pum cap i Gymru fel blaenasgellwr.

Bydd yn dechrau ar ei swydd newydd yn ystod Gorffennaf 2011.

'Pleser ac anrhydedd'

Dywedodd Rheolwr Gyfarwyddwr Cymry Llundain, John Taylor:

"Mae Lyn eisoes wedi profi ei hun ar y lefel uchaf. Mae ganddo allu prin fel hyfforddwr, ac mae'r ffaith ei fod yn Gymro yn fonws ychwanegol."

Dywedodd Lyn Jones: ""Mae'n bleser ac anrhydedd cael cyfle i hyfforddi clwb fel Cymry Llundain.

"Mae'n glwb gyda hanes a thraddodiad cyfoethog gyda phenderfyniad i ddychwelyd i frig y gêm yn Lloegr.

"Byddaf yn dod a 'mhrofiad a dealltwriaeth o hyfforddi ar y lefel uchaf i glwb sydd ag uchelgais, ond mae cau'r bwlch rhwng rygbi'r Bencampwriaeth a'r Uwchgynghrair yn mynd i olygu llawer o waith caled.

"Mae'r ddwy flynedd a dreuliais yn Abu Dhabi wedi bod o fudd proffesiynol a phersonol, ac rwyf wedi dysgu sgiliau newydd all fod o fudd mewn rygbi proffesiynol.

"Rwy'n bwriadu cadw cysylltiad gyda'r ysgol, a datblygu llwybr datblygu gyda fy nghyflogwyr newydd.

"Yn flynyddol, byddwn yn dod a'r goreuon o'r myfyrwyr yn Abu Dhabi draw i Lundain am wythnos fel rhan o'u datblygiad rygbi.

"Mae fy angerdd dros y gêm yn gryf - felly hefyd fy awydd i hyfforddi a gobeithio fod gennyf lawer i gynnig i rygbi ar y lefel uchaf am flynyddoedd i ddod."




Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific