British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Llun, 6 Mehefin 2011, 09:14 GMT 10:14 UK
Syr Anthony Hopkins yn cefnogi canolfan ddrama

Syr Anthony Hopkins
Roedd Syr Anthony Hopkins yn aelod o grŵp drama'r YMCA lleol

Mae'r actor Syr Anthony Hopkins wedi datgan ei gefnogaeth i ganolfan newydd ar gyfer drama a dawnsio ym Mhort Talbot.

Dywedodd y byddai hyn galluogi pobl ifanc i gael yr un cyfleodd perfformio ac a gafodd ef.

Cafodd yr actor, sydd fwyaf adnabyddus am ennill Oscar am chwarae rhan y llofrudd Hannibal Lecter yn y ffilm The Silence of The Lambs, ei fagu yn y dref.

Yn ystod y 1950au roedd yn aelod o grŵp drama'r YMCA lleol.

Ac yn awr bydd cartref Academi Perfformio Syr Anthony Hopkins yn yr un adeilad a'r hen YMCA.

Roedd e'n siomedig nad oedd yr adeilad yn cael ei ddefnyddio ar gyfer actio a dawnsio felly penderfynodd y dylid sefydlu rhyw fath o academi ym
Matthew Rhys

Gofynnwyd i'r actor lleol, Matthew, Rhys, 27, sefydlu'r academi ar ôl i'r actor 73 oed ganfod bod dosbarthiadau actio a dawnsio wedi dod i ben.

Dywedodd Mr Rhys: "Awgrymodd Syr Anthony y byddai'n syniad da i roi cyfle i bobl ifanc lleol gael yr un cyfleodd a gafodd e.

"Roedd e'n siomedig nad oedd yr adeilad yn cael ei ddefnyddio ar gyfer actio a dawnsio ac felly penderfynodd y dylid sefydlu rhyw fath o academi yma."

Academi

Ychwanegodd Mr Rhys, fod actor llwyddiannus arall o Bort Talbot, Michael Sheen, wedi rhoi hwb i'r prosiect trwy lwyfannu drama o'r Dioddefaint yn y dref dros y Pasg.

Matthew Rhys yn cynnal dosbarth yn yr academi
Bydd Academi Perfformio Syr Anthony Hopkins yn yr un adeilad lle lleolid yr YMCA

"Creodd y Dioddefaint diddordeb enbyd mewn creadigrwydd yn y dref," meddai Mr Rhys, sydd wedi cael ei hyfforddi yn RADA.

"Wrth feddwl am yr holl bobl dalentog sydd wedi dod o Bort Talbot mae pobl ifanc yr ardal yn ysu i wneud eu marc ac felly mae'n wych i roi'r cyfle iddyn nhw."

Un o'r bobl ifanc sy'n aelod o'r academi yw Lisa Jones, sy'n 17 oed.

"Rwy'i wedi cynhyrfu'n llwyr am fod y cyfle hwn yn fy ysbrydoli i ddilyn actio fel gyrfa," meddai.

"Mae gwybod bod Syr Anthony Hopkins yn dod o Bort Talbot yn rhoi hwb i mi."



CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific